Skip to content

Yn trefnu Cinio Mawr am y tro cyntaf?  

Boed yn damaid i’w fwyta gyda rhai cymdogion, parti ar gyfer y stryd gyfan neu rywbeth yn y canol – mae cynllunio Cinio Mawr yn hawdd gydag ychydig o gamau syml.  

Cychwyn arni gyda chanllaw Y Cinio Mawr

Curo pryder gwahodd – sut i wahodd pobl i’ch digwyddiad 


Cynllunio a hyrwyddo

Popeth sydd ei angen arnoch i gynllunio a hyrwyddo eich Cinio Mawr. O gynllunydd cam wrth gam i ddeunyddiau hyrwyddo trawiadol. Mae ein hadnoddau parod i’w defnyddio yn ei gwneud hi’n hawdd dechrau arni.  

Eisiau ychwanegu elfen bersonol? Defnyddiwch ein templedi Canva y gellir eu golygu a’u teilwra i’ch digwyddiad.  

Beth am fynd ati i gynllunio!  

Ychwanegwch eich Cinio Mawr at ein map

Ymunwch â chymunedau i ddathlu’r Cinio Mawr ledled y DU a rhowch eich digwyddiad ar y map. Mae’n ffordd wych o roi gwybod i eraill am eich Cinio Mawr, yn enwedig os yw’n ddigwyddiad cyhoeddus – gallech hyd yn oed ddefnyddio rhai eitemau rhad ac am ddim Y Cinio Mawr (fel byntin!) i’w defnyddio ar y diwrnod.  

Bydd ein map yn barod i dderbyn digwyddiadau yn fuan iawn!

Gweithgareddau ar gyfer eich Cinio Mawr  

Ychwanegwch rywbeth bach ychwanegol at eich Cinio Mawr gyda’n syniadau am weithgareddau! Archwiliwch dempledi crefft, ysbrydoliaeth codi arian a gemau sydd wedi’u cynllunio i sbarduno sgwrsio a chreu chysylltiadau.   

P’un a ydych chi’n codi arian, yn torri’r iâ, neu’n ychwanegu elfen chwareus, bydd yr adnoddau hyn yn helpu i wneud eich Cinio Mawr hyd yn oed yn fwy cofiadwy.  

Sgons pwmpen cnau menyn, tsili a chaws cheddar 

Rysáit arbennig ar gyfer Y Cinio Mawr gan Sumayah Kazi o’r Great British Bake Off!

“Fersiwn o glasur, mae’r sgons yma’n syml i’w gwneud, yn berffaith i’w rhannu ac yn llawn blas. Os nad ydych chi’n siŵr beth i ddod gyda chi i’ch Cinio Mawr, torchwch eich llewys a rhowch gynnig ar y sgons hyn!” – Sumayah

Rhowch gynnig ar y rysáit arbennig yma

Mwy o ysbrydoliaeth flasus 

Mwy o adnoddau’r Cinio Mawr

Pethau y gallai fod angen i chi feddwl amdanynt

Angen cau ffordd, cael yswiriant neu gynnal asesiad risg ar gyfer eich Cinio Mawr? Rydyn ni yma i’ch helpu chi! Nid oes angen y rhain ar bob digwyddiad, ond os oes angen y rhain ar eich un chi, dyma rai canllawiau defnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni.


Lawrlwythwch bopeth fel bwndel

Lawrlwythwch yr holl adnoddau sydd ar gael gyda’i gilydd mewn un PDF i’w hargraffu a’u defnyddio sut bynnag y dymunwch.