Skip to content

Asesu iechyd a diogelwch

Efallai bydd rhai cynghorau’n gofyn i chi wneud asesiad risg. Dyma ffurflen syml i’ch helpu i ddechrau arni.

1) Amlygu’r peryglon

Dylid amlygu pob perygl, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r gweithgareddau unigol ac unrhyw gyfarpar. Mae ‘perygl’ yn golygu rhywbeth a all achosi niwed. Nodwch y peryglon a all achosi niwed sylweddol.

 

2) Amlygu’r rheini sydd mewn perygl

Ar gyfer pob perygl a amlygwyd, rhestrwch bawb a all gael eu heffeithio. Peidiwch â rhestru enwau unigolion, bydd rhestru grwpiau o bobl yn ddigon.

 

3) Asesu’r risg 

Rhaid gwerthuso hyd a lled y risg sy’n codi o’r peryglon a amlygwyd, ac ystyried y mesurau rheoli sy’n bodoli eisoes. Y risg yw tebygolrwydd y niwed sy’n codi o’r perygl. Dylech restru’r mesurau rheoli sy’n bodoli eisoes ac asesu a oes angen unrhyw reoli pellach. 

 

4) Cofnodi’r darganfyddiadau 

Defnyddiwch ein templed Ffurflen Asesu Risg i gofnodi unrhyw beryglon arwyddocaol, natur a hyd a lled y risgiau, a’r camau sydd eu hangen i’w rheoli. Cadwch hyn ar gyfer dod yn ôl ato yn y dyfodol. Gallwch hefyd gyfeirio at ddogfennau eraill sydd gennych o bosibl, fel llawlyfrau, cod ymddygiad ac ati. Lawrlwythwch ein sampl o ffurflen asesu risg (EN):

General Risk Assessment Sample Form Eden Project Communities.doc

Microsoft Office document icon General Risk Assessment Sample Form Eden Project Communities.doc

 

5) Adolygu a diweddaru

Os bydd natur y risgiau’n newid wrth i chi gynllunio’r digwyddiad, bydd angen adolygu a diweddaru’r asesiadau risg. 

 

6) Darparu gwybodaeth

Pan fydd yr asesiad risg yn amlygu risgiau sylweddol, dylech ddarparu gwybodaeth i bawb fydd yn cael eu heffeithio, ynghylch natur y risg a’r mesurau rheoli fydd yn cael eu cyflwyno. 

Cymerwch gip ar wybodaeth asesu risg y Gronfa Loteri Fawr (EN) am ragor o atebion i gwestiynau cyffredin. 

Gweld holl ganllawiau’r Cinio Mawr