Y Rhwydwaith
P’un a ydych wedi trochi’ch bysedd traed yn y dŵr â chefnogi cymydog, neu wedi sefydlu grŵp cymorth cymunedol; rydych chi eisoes yn rhedeg prosiect cymunedol ac wedi gwneud ers blynyddoedd, neu mae gennych chi syniad rydych chi am ei archwilio – dyma wahoddiad i chi oll ymuno â’n rhwydwaith a chysylltu â phobl o’r un anian sy’n helpu ei gilydd ar hyd y ffordd.
Yn ein barn ni, y mwyaf o gysylltiadau sydd gennym, y mwyaf gallwn ni ei wneud, gyda’n gilydd.
Beth yw’r rhwydwaith?
Beth all y rhwydwaith ei gynnig i chi?
- System gymorth o bobl eraill yn union fel chi
- Mynediad i’n tîm o Ddatblygwyr Rhwydwaith Cymunedol sy’n gweithio’n lleol yn eich ardal, a all ddarparu cefnogaeth a’ch cysylltu ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg
- Cymorth a chyngor, gan gynnwys digwyddiadau a gweithdai ar-lein
Digwyddiadau
Mae gennym hefyd ein cyfres o sesiynau ar-lein – ymunwch â ni am gyfle i blymio ychydig yn ddyfnach i feysydd diddordeb mwy penodol – o adeiladu rhwydwaith i wytnwch bwyd, o actifiaeth i’r rôl y gall celfyddydau cymunedol ei chwarae yn y newydd normal hwn.