Beth am un digwyddiad mawr?

Os ydych chi wedi bod i sawl Cinio Mawr, neu os ydych chi wedi bod yn rhan o’r Help Llaw Mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf – beth am gynnal un digwyddiad mawr?

Gallai hynny olygu casglu sbwriel cymunedol neu ofyn i bobl ddod â bwyd i’w roi i fanc bwyd fel rhan o’ch Cinio Mawr arferol. Mae’n siŵr o roi teimlad o gynhesrwydd i bawb!

Neu os ydych chi eisoes yn adnabod pobl anhygoel sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill, gallech chi gynnal Cinio Mawr i ddweud diolch yn fawr iawn. Mae’n ddigwyddiad perffaith i’w gynnal fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin 2026) fel rhan o Fis y Gymuned.

“Mae ein Cinio Mawr yn seiliedig ar yr hyn y mae’r gymuned eisiau iddo fod – pan fydd cymdogion newydd yn cyrraedd y stryd, maen nhw’n cyfrannu syniadau newydd. Mae wedi atgyfnerthu ein hysbryd cymunedol!”

Ian, Norwich
Ein partneriaid

Mis y Gymuned

Bydd y Cinio Mawr unwaith eto yn rhan o Fis y Gymuned sef mis Mehefin eleni ac mae digonedd o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan!

O ddigwyddiadau a dathliadau i ffyrdd y gallwch gefnogi amrywiaeth o elusennau, ymgyrchoedd ac achosion da. Mae ein partneriaid gwych yn trefnu Mis y Gymuned a fydd yn cynnwys rhywbeth i bawb eleni.

Ymunwch â Mis y Gymuned