Skip to content

Cynhaliwch Ginio Mawr mwy cynaliadwy

Syniadau da ar uwchgylchu, bwyd dros ben gwych a rhannu cymunedol.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod lleihau ein heffaith ar y blaned yn gynyddol bwysig, ond nid yw’n ddrwg i gyd – y newyddion da yw y bydd y cyfnewidiadau cynaliadwy hyn yn ei gwneud hi’n hawdd chwarae eich rhan, a byddant yn eich helpu i arbed ychydig o geiniogau hefyd!

Mae gennym ni lawer o syniadau isod, ond bydd gwneud un o’r rhain yn helpu i leihau effaith eich digwyddiad ar yr amgylchedd!

 

Byddwch yn ddigidol

Arbedwch gostau ac adnoddau trwy drefnu eich Cinio Mawr yn ddigidol.

Mae graffeg cyfryngau cymdeithasol yn eich pecyn y gallwch ei rannu yn eich grŵp Whatsapp neu Facebook i hysbysebu eich Cinio Mawr. Edrychwch drwy’r holl ddeunyddiau sydd ar gael i’w lawrlwytho ac ystyriwch yn ofalus pa rai (os o gwbl) fydd yn ddefnyddiol i’w hargraffu ar gyfer eich digwyddiad! Os byddwch yn penderfynu argraffu unrhyw beth, ceisiwch ddefnyddio papur wedi’i ailgylchu lle y gallwch.

I unrhyw un yn eich cymuned sy’n annhebygol o weld gwahoddiad ar-lein, beth am roi nodyn trwy eu blwch llythyrau i roi gwybod iddynt fod y gwahoddiad i bawb!

 

Cyfnewidiwch a rhannwch

Cadwch bethau’n syml a gofynnwch i bawb ddod â’u plât, cyllyll a ffyrc a mwg eu hunain – mae’n arbed prynu eitemau tafladwy neu untro.

Os oes angen pethau mwy arnoch chi fel byrddau, cadeiriau neu ddysglau gweini, gwnewch restr a rhowch nodyn trwy ddrysau eich cymdogion yn gofyn beth mae pobl yn fodlon ei fenthyca. Efallai y cewch eich synnu ar yr ochr orau gan faint y gallwch ei gyrchu fel hyn a bydd yn helpu i gadw cost ac effaith amgylcheddol eich digwyddiad i lawr.

Dal angen ychydig fanion? Mae gan y rhwydwaith cymdogaeth, Nextdoor, adran ‘Ar Werth ac Am Ddim’ sef y lle perffaith i edrych, fe allech chi ofyn yn eich grŵp WhatsApp lleol neu dudalen Facebook os oes gennych chi un, neu estyn allan i fusnesau neu gaffis lleol i weld os oes ganddyn nhw offer y gallech chi ei fenthyg.

Os ydych chi’n cynnal digwyddiad mwy mewn lleoliad nad yw’n dod â’r hyn sydd ei angen arnoch chi, mae rhwydwaith Cwmnïau Buddiant Cymunedol Party Kit yn rhestru manylion pecynnau parti y gellir eu hailddefnyddio (gan gynnwys platiau, bowlenni, llieiniau bwrdd a mwy) sydd ar gael i’w llogi ar draws y wlad.

 

Tyfwch eich bwyd eich hun

Does dim byd gwell na gwybod yn union o ble y daw eich bwyd, ac ni allwch gael mwy o ffynonellau lleol nag o’ch gardd eich hun.

Gallwch hau llysiau blasus o fis Chwefror ymlaen a byddant yn barod i’w cynaeafu ar gyfer Cinio Mawr yr haf. Cymerwch olwg ar ein canllaw plannu (gan gynnwys llyfryn rhad ac am ddim) a pharatowch saig lysiau flasus i’w rannu gyda’r bobl ar eich stryd pan ddaw’r diwrnod mawr.

Tyfwch fwyd ar gyfer eich Cinio Mawr (EN)

 

Siopa gofalgar

Os oes angen i chi brynu rhai darnau ar gyfer eich Cinio Mawr, cymerwch olwg yn eich siop elusen agosaf cyn prynu rhywbeth newydd sbon.

Mae siopau elusen yn lle gwych am bethau fel llestri, gemau a blancedi picnic, felly ceisiwch ymwrthod â’r ysfa i glicio a chasglu, gwnewch restr o’r hyn sydd ei angen arnoch ac ewch i chwilota! Gallwch ddefnyddio gwefan y Charity Retail Association i ddod o hyd i’ch siop elusen leol.

Mae siopau elusen yn cynhyrchu swm anhygoel o £330m ar gyfer achosion da ac yn harneisio sgiliau mwy na 233,000 o wirfoddolwyr ledled y wlad bob blwyddyn. Dyna ymdrech gwerth ei chefnogi!

‘Mae diddordeb mawr dros yr hyn y gallwn ei wneud i helpu’r blaned, a chredaf fod yn rhaid i hynny ddechrau’n lleol. Yn aml, rydyn ni’n clywed pethau’n dod o’r brig ac nid yw’n hawdd dwyn perthynas â hynny, ond os byddwch chi’n ei gymryd i lawr i’r hyn y gallwn ni ei wneud ein hunain, gallwn ei roi ar waith a chynnwys ein plant.’

Margaret

Gwnewch rai addurniadau wedi’u huwchgylchu

Mae cynnal Cinio Mawr yn gyfle gwych i gael gwared ar gynnwys eich bag ailgylchu (neu un eich cymydog) i weld pa addurniadau y gallech eu creu ar gyfer eich parti!

Efallai y byddwch chi’n synnu pa mor hawdd yw hi i wneud byntin o ddarnau o ddeunyddiau neu pom poms anferth o hen bapurau newydd neu gylchgronau, ac maen nhw’n ddewisiadau amgen gwych i’w hailddefnyddio yn lle balŵns. Beth am wahodd pobl i ddod at ei gilydd cyn eich Cinio Mawr a bod yn greadigol fel cymuned i greu eich addurn?

Angen ysbrydoliaeth? Mae gennym ni lawer o syniadau, templedi, a chyfarwyddiadau ar sut i wneud addurniadau o bapur (EN), o gadwyni papur a jariau jam addurnedig, i flodau wedi’u gwneud o diwbiau papur toiled – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

 

Dim gwastraff, diolch

Gofynnwch i bobl anfon RSVP a chynlluniwch yn ofalus gyda’ch cymdogion fel na bod gormod o fwyd gyda chi ar y diwrnod. Sicrhewch fod gennych bentwr o dybiau tupperware wrth law i ddidoli bwyd dros ben yn hawdd fel y gall pobl fynd â nhw i ffwrdd (ac anogwch bobl i wneud hynny!).

Mae gwefannau fel Olio yn wych ar gyfer rhestru bwyd yn gyflym i’w gasglu, tra gellir mynd ag unrhyw eitemau na fyddant yn mynd yn ddrwg yn gyflym i’ch banc bwyd lleol.

 

Dechreuwch sgyrsiau am fyd natur

Un o’r camau cyntaf i gefnogi’r byd naturiol yw gofalu amdano, felly gall dod â’ch cymuned gyda chi helpu pawb i ddeall y rôl y gallant ei chwarae. Mae Cinio Mawr yn ffordd wych o gychwyn y daith! Gallai eich Cinio Mawr fod yn bicnic yn eich parc lleol, neu fe allech chi gasglu sbwriel neu fynd ar daith gerdded fer yn eich ardal leol.

Helpwch eich cymuned i gysylltu â natur yn eich ardal leol trwy annog pawb i fynd allan a sylwi ar yr hyn sydd gerllaw. Mae eich Cinio Mawr hefyd yn gyfle gwych i ddod o hyd i eraill yn agos atoch chi sy’n teimlo hefyd eu bod eisiau amddiffyn y blaned a gwneud eich cymuned yn wyrddach.

Gwnewch eich cymuned yn wyrddach

 

Codi arian

Diolch i’r trefnwyr a’r cymdogaethau anhygoel sy’n ymuno bob blwyddyn, mae dros £69 miliwn wedi’i godi at achosion da drwy’r Cinio Mawr ers 2018, gyda dros £50 miliwn yn mynd i elusennau neu achosion lleol. Am anhygoel?!

A wyddoch chi y gall codi arian eich Cinio Mawr ysgogi hyd yn oed mwy o godi arian? Fel elusen mae Eden Project Communities yn dibynnu ar gyllid allanol i gadw ein digwyddiadau ac adnoddau’r Cinio Mawr yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i bawb.

Gallai ychydig bunnoedd yn unig ein helpu i gefnogi mwy o gymunedau i gynnal Cinio Mawr a chodi arian at achosion gwych yn y dyfodol.

Gofynnir ichi ystyried feddwl amdanom wrth gynllunio eich Cinio Mawr – mae gennym lawer o offer codi arian am ddim i helpu.

Codi arian