Cefnogwch eich cymuned
Mae pethau gwych yn digwydd pan ddaw pobl at ei gilydd. Gall cymunedau sydd â chysylltiadau da, boed hynny’n gymdogaeth neu’n grŵp o bobl sy’n rhannu diddordebau a gwerthoedd, leihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwella’r gallu i wrthsefyll newid a chaledi.
Gwyddom fod miliynau o bobl allan yna sydd eisiau helpu yn eu cymuned. Os ydych chi’n un ohonyn nhw, rydyn ni yma i’ch helpu chi.
Scroll down to next section1/2
o bobl y DU yn fodlon rhoi bwyd i’r rhai mewn angen*
1/4
o bobl y DU yn fodlon coginio i rywun sy’n cael trafferth*
0
o brosiectau cymunedol newydd o ganlyniad i Wersyll Cymunedol
Sut i gychwyn prosiect cymunedol
Os ydych chi’n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn eich cymuned, beth am ddechrau eich prosiect eich hun? Mae yna bobl wych yn union fel chi wrth galon llawer o fentrau cymunedol, yn cynnig cefnogaeth ac yn lledaenu caredigrwydd bob dydd.
Mae gennym ni ganllawiau ymarferol, ysbrydoliaeth a rhwydwaith cymorth llawn i’ch helpu i roi cychwyn ar eich prosiect. P’un a oes angen cyngor arnoch ar ariannu, dod o hyd i wirfoddolwyr neu jyst rhywun i sgwrsio â nhw am eich syniadau, dechreuwch ar eich prosiect cymunedol heddiw.
Ffyrdd o gefnogi eich cymuned
Dod o hyd i ariannu ar gyfer eich cymuned
Mae llawer o brosiectau cymunedol gwych yn cael eu cyflawni gydag ychydig…
Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd
Gall unrhyw un o unrhyw oedran fod yn unig.
Bwyd, planed a chymuned
Sut i ddod â’ch cymuned at ei gilydd gyda bwyd cynaliadwy sy’n…
Gwirfoddoli
Mae cymaint o fanteision i wirfoddoli. Darganfyddwch ffyrdd o ddod â’ch cymuned…
Dewch o hyd i ariannu ar gyfer eich prosiect cymunedol
Mae llawer o brosiectau cymunedol gwych yn cael eu cyflawni gydag ychydig neu ddim arian, ond os oes angen chwistrelliad o arian ar eich un chi – mae ein hawgrymiadau a’n canllawiau codi arian yma i helpu!
Ein rhwydwaith ar lawr gwlad
Oes gennych chi syniad i gefnogi eich cymuned, ond ddim yn siŵr sut i ddechrau? Mae gennym dîm anhygoel o Ddatblygwyr Rhwydwaith Cymunedol, sy’n gweithio mewn rhanbarthau ledled y DU i’ch helpu i ddod â’ch syniadau’n fyw.
P’un a ydych angen cyngor, adnoddau neu ddim ond rhywun i sgwrsio â nhw, maen nhw ar ben e-bost neu’r ffôn. Gallant hefyd eich helpu i gwrdd â phobl eraill o’r un anian yn agos atoch chi!
Dechreuais gredu bod yr hyn a wnes i yn bwysig, bod pwrpas iddo, ac fe wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i’n cymuned.