Cyrsiau i ddod

Ein cwrs nesaf fydd cwrs 5-sesiwn Cyflwyniad i Weithredu Cymunedol, a gynhelir yn rhithiol ar nosweithiau Mercher o 18 Medi i 16 Hydref. Bydd ceisiadau yn agor yn fuan – cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr i fod y cyntaf i glywed pan fyddant yn agor.

Beth allwch chi ei ddisgwyl o’r cwrs?

  • pum sesiwn cwrs ar-lein gyda’r nos i’ch helpu i roi cychwyn i’ch syniadau a gwneud gwahaniaeth
  • rhaglen orlawn yn llawn cyngor gan arbenigwyr yn eu maes – o ymgyrchwyr blaenllaw i sesiynau cyllid
  • gweithdai rhyngweithiol gan gynnwys sut i adrodd eich stori, hyder yn eich arweinyddiaeth a denu cynorthwywyr ac ariannu
  • camau bach ymarferol i’ch helpu i gychwyn arni
  • cyfleoedd i gysylltu â phobl eraill â’r un meddylfryd a dod o hyd i gefnogaeth lle rydych chi’n byw
  • Ardystiad ‘Cyflwyniad i Weithredu Cymunedol’
Screenshot of Zoom with 25 participants all raising their hands and smiling

Pwy ddylai wneud cais?

Os ydych chi eisiau cymryd mwy o ran yn eich cymuned, yna mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi!

Rydym yn argymell gwneud cais os:

  • rydych chi ar gychwyn eich taith ac sydd eisiau dysgu mwy gydag eraill
  • dydych chi ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda’ch prosiect cymunedol
  • fe gynhalioch chi Ginio Mawr am y tro cyntaf ac rydych chi’n awyddus i wneud mwy
  • buoch yn ymwneud â grwpiau cydgymorth neu helpu cymdogion a’r rhai yn eich cymuned yn ystod Covid-19
  • mae gennych ychydig mwy o amser i gymryd rhan yn eich cymuned nawr oherwydd newid mewn addysg neu gyflogaeth

Ymgeisiwch nawr (EN)

Lleoedd wedi’u hariannu

Mae lleoedd ar y cwrs hwn wedi’u hariannu’n llawn, ac mae galw mawr amdanynt. Maent yn benodol er budd aelodau gwirfoddol o’r gymuned, ac yn anffodus nid ydym yn gallu dyrannu lleoedd wedi’u hariannu i bobl sy’n gwneud cais fel rhan o rôl gymunedol â thâl, neu’r rhai sydd wedi mynychu o’r blaen.

Rhan o’n rhaglen gwersyll cymunedol

Mae ein cwrs Gweithredu Cymunedol yn rhan o’n rhaglen Gwersyll Cymunedol ehangach, sy’n ysbrydoli darpar drefnwyr cymunedol ledled y wlad i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Rydym yn cynnig ein cwrs byr ar-lein a phrofiad personol yn yr Eden Project, o’r enw Gwersyll Cymunedol. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gael gwybod beth sydd i ddod!

Cofrestrwch nawr (EN)


Straeon

Darganfyddwch sut mae ein rhaglen Gwersyll Cymunedol wedi cefnogi pobl fel chi i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.