Community gathered at a table

Y Cinio Mawr

Dechreuon ni gyda syniad syml iawn gan yr Eden Project. Beth pe bai pobl, ar un diwrnod y flwyddyn, yn dod ynghyd â’u cymunedau ac yn rhannu pryd o fwyd?

Ac felly, yn 2009, ganwyd Y Cinio Mawr. Fe’i cynhelir ar benwythnos cyntaf mis Mehefin bob blwyddyn, ac mae’n ddigwyddiad blynyddol y DU i gymdogion, gyda miliynau o bobl yn dod at ei gilydd am ychydig oriau o gymuned, cyfeillgarwch a hwyl.

Mae’r Cinio Mawr yn cysylltu pobl ac yn annog cymdogaethau mwy cyfeillgar a diogel lle mae pobl yn dechrau rhannu mwy – o sgyrsiau a syniadau, i sgiliau ac adnoddau, ac, i rai, mae’n sbarduno awydd i wneud mwy o bethau da lle maen nhw’n byw.

Darganfyddwch fwy am Y Cinio Mawr

People socialising

Gwersyll Cymunedol

Rydym yn rhedeg Gwersyll Cymunedol yn yr Eden Project ac ar-lein – profiad dysgu trochi, sy’n cynnig cymysgedd o weithgareddau ymarferol, sesiynau gweithdy a chyfleoedd rhwydweithio i bobl o bob rhan o’r DU sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned.

Mae ein gwersylloedd yn cefnogi ac yn annog pobl i greu newid cadarnhaol lle maent yn byw, a thrwy ein rhwydwaith cymunedol mae ein tîm yn cefnogi dros 1,500 o bobl sy’n cyflawni prosiectau a arweinir gan y gymuned ledled y DU.

Community Camp (EN)

Two men laughing and enjoying a cup of tea at an indoor event.

Y rhwydwaith

Yn ein barn ni, y mwyaf o gysylltiadau sydd gennym, y mwyaf gallwn ni ei wneud, gyda’n gilydd.

P’un a ydych chi’n rhedeg prosiect cymunedol, neu os oes gennych chi syniad yr hoffech ei ddatblygu, gallwch ymuno â’n rhwydwaith a chysylltu â phobl o’r un anian a all eich helpu i gyflawni eich nodau cymunedol. Mae gennym ni dîm gwych o Ddatblygwyr Rhwydwaith Cymunedol sydd yno i roi cyngor i chi, eich rhoi mewn cysylltiad â phartneriaid defnyddiol eraill a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Gallwch hefyd ymuno â’n cyfres o weithdai ar-lein rhad ac am ddim sy’n archwilio pob math o syniadau a chyfleoedd i’ch helpu ar eich ffordd.

Y Rhwydwaith

Elderly lady talking to younger girl

Ymateb Gweithredu Cymunedol

Mae’r Ymateb Gweithredu Cymunedol yn cael ei arwain gan grŵp o sefydliadau o wahanol sectorau gyda’r nod ar y cyd i annog pawb i wneud yr hyn a allant i gefnogi eu cymunedau, ac yn enwedig pobl agored i niwed ac ynysig, yn ystod argyfwng Covid-19 a thu hwnt.

Crëwyd hwn oherwydd yr her ddigynsail mae Covid-19 yn ei chyflwyno i bobl ym mhob cymdogaeth yn y DU. Gyda’n gilydd, aethom ati i alw ar bawb i gymryd camau a fydd yn helpu cymunedau i ymdopi trwy’r gwaethaf o’r firws hwn.

Discover our work