Helpwch ni i gefnogi mwy o bobl i greu cymunedau hapusach ac iachach ledled y DU. Rhif elusen gofrestredig yr Eden Project yw 1093070 (The Eden Trust)

A glass donation jar is having a 5 pound note added amidst a beautifully set table containing cakes, drinks and flowers.

Codwch arian gyda’r Cinio Mawr

Diolch i’r trefnwyr a’r cymdogaethau anhygoel sy’n ymuno bob blwyddyn, mae dros £87 miliwn wedi’i godi at achosion da drwy’r Cinio Mawr ers 2015, gyda dros 3/4 yn mynd i elusennau neu achosion lleol. Mae hynny wir yn rhywbeth i’w ddathlu!

Gofynnwn i chi ystyried codi arian ar gyfer yr Eden Project gyda’ch Cinio Mawr. Gall hyd yn oed rhoddi cyfran o’r arian a godwyd gennych ein helpu i gefnogi mwy o Giniawau Mawr ac ailgysylltu cymunedau â natur.

Lawrlwythwch y pecyn codi arian

 

Adnoddau codi arian

Mae gennym ni amrywiaeth o adnoddau gwych i’w lawrlwytho i’ch helpu i godi arian yn eich Cinio Mawr!

Lawrlwythwch adnoddau unigol isod neu gallwch gael mynediad at ein pecyn codi arian cyfan.

Lawrlwythwch y pecyn codi arian

Sut i gyfrannu’r arian a godwyd yn eich Cinio Mawr

Os ydych yn bwriadu codi arian i ni (neu wedi gwneud yn barod), diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth! Rydych chi’n anhygoel.

O ran cyfrannu’r arian a godwyd gennych yn eich Cinio Mawr, mae gennych chi ddau opsiwn.

1) Defnyddiwch ein ffurflen rhoddi ar-lein

Y ffordd symlaf o gyfrannu’r arian a godwyd gennych yw defnyddio ein ffurflen rhodd ar-lein.

Cyfrannwch yr arian a godwyd gennych ar ein gwefan

 

2) Defnyddiwch JustGiving

Mae gennym dudalen JustGiving y gallwch ychwanegu rhoddion ati (neu annog eraill i gyfrannu iddi). Gallech hefyd greu eich tudalen codi arian eich hun ar JustGiving a’n dewis ni fel eich achos!

Casglwch drwy JustGiving (EN)

Pobl wych yn gwneud pethau gwych

I’r llysieuydd Maria Billington, roedd ei gofod cymunedol sy’n eiddo i’r cyngor lleol yn lle perffaith i bobl ddod at ei gilydd a thrawsnewid ardal oedd wedi’i hesgeuluso.

Yn cynnig profiadau addysgol i bobl ifanc a bod yn destun balchder gwirioneddol i’r gymuned, roedd yn dorcalonnus pan oedd diffyg cyllid yn bygwth popeth yr oeddent wedi’i adeiladu.

Ar y pwynt hwn roedd Maria yn cael trafferth dod o hyd i ateb a daeth ar draws ein rhaglen cwrs Gwersyll Cymunedol rhad ac am ddim. Roedd hyn yn drobwynt i helpu Maria i symud ei phrosiect yn ei flaen. Gyda’r hyn mae Maria’n ei alw’n ‘effaith Eden’, mae ein cyrsiau Gwersyll Cymunedol wedi helpu dros 1,000 o drefnwyr cymunedol i wneud pethau anhygoel lle maen nhw’n byw.

 

 

Cysylltwch

Hoffech chi ychydig o help neu eisiau gofyn cwestiwn? Rhowch alwad i ni neu anfonwch neges atom ar 01726 811910 neu fundraising@edenproject.com.