
Amdanom ni
Ni yw Cymunedau Eden Project.
Er mwyn mynd i’r afael â’r prif faterion sy’n wynebu dynoliaeth, mae angen cymunedau cryf a gwydn arnom, ac eto mae cymdeithasau’n dod yn fwyfwy tameidiog. Credwn ein bod mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â heriau pan fyddwn yn eu hwynebu gyda’n gilydd.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau i helpu pawb i gymryd rhan a theimlo eu bod yn perthyn yn eu cymuned, ble bynnag y maent yn byw.
Ein cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw dod â phobl ynghyd a’u hannog i ymgysylltu’n weithredol â’i gilydd a’r lleoedd y maent yn byw ynddynt. Mae gennym weledigaeth o fyd yn llawn cymunedau hapusach ac iachach lle mae pobl yn adnabod ei gilydd a bod cymdogaethau’n ffynnu.
Ein hegwyddorion arweiniol
- Creu cyfleoedd i bobl rannu mwy, cysylltu ag eraill, a chael hwyl.
- Cefnogi ac annog pobl i gymryd rhan lle maent yn byw.
- Adeiladu mwy o empathi rhwng pobl a chymunedau.
- Dathlu’r pethau dynol a beunyddiol.
- Hyrwyddo cynhwysiant a dathlu amrywiaeth.
- Gwneud Y Cinio Mawr yn adeg a rennir yn genedlaethol sy’n ein huno ni, ein cymdogaethau a’n cymunedau.

Rhan o deulu Eden
Elusen addysgol a menter gymdeithasol yw Eden Project. Rydym yn creu gerddi, arddangosfeydd, celf, digwyddiadau, profiadau a phrosiectau sy’n archwilio sut y gall pobl gydweithio – a gyda natur – tuag at ddyfodol gwell. Cawn ein hysbrydoli gan y gred bod pobl yn fwy nag abl i newid pethau er gwell, a thrwy greu Eden rydym wedi dysgu beth all dyfeisgarwch, ymarferoldeb, gobaith a phenderfyniad ei wneud.
Mae stori Eden Project yn un o drawsnewid a gobaith, felly yn 2009 fe benderfynon ni roi cynnig ar arbrawf bach: i weld beth allai effaith drawsnewidiol dod i adnabod ein cymdogion fod. Yr arbrawf bach hwnnw oedd Y Cinio Mawr.
Trwy Cymunedau Eden Project rydym yn cefnogi pobl gyffredin i wneud pethau rhyfeddol wrth iddynt adeiladu eu sgiliau a’u hyder i greu newid cadarnhaol lle maent yn byw.
“Mae’r dyfodol yno i ni i’w ddyfeisio. Gadewch i ni greu byd rydyn ni eisiau byw ynddo”
Dr Tony Kendle, Eden Project

Contact us and media
Speak to our friendly team about partner, media and community opportunities.

Our research
Find out more about the impact of our work.

Our partners
Core funder, sponsor and partner support helps us reach millions every year.

Meet the team
A mighty bunch spread out all across the UK.