Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd

A family all at home in different rooms on their phones.

‘Mae iaith wedi creu’r gair "unigrwydd" i fynegi’r boen o fod ar eich pen eich hun. Ac mae wedi creu’r gair “unigedd” i fynegi llawenydd bod ar eich pen eich hun.’ - Paul Johannes Tillich

Beth yw Unigrwydd?

Unigrwydd yw’r gwrthdaro rhwng y perthnasoedd sydd gennym ni a’r rhai rydyn ni eu heisiau. Dyma arwydd mewnol, sy’n ein hysbysu ei bod hi’n bryd inni gael cwmni, yn yr un modd ag y mae llwgu yn ein hysbysu ei bod hi’n bryd inni fwyta.

Gall unrhyw un, o unrhyw oedran, fod yn unig – hyd yn oed pobl brysur, hyd yn oed chi – ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, yn y gwaith neu yn y cartref gyda’ch teulu.

Mae unigrwydd yn arwydd bod angen i rywbeth newid. Mae unigrwydd yn ein niweidio ni fel unigolion ac mae’n niweidio ein cymdogaeth a’n cymuned. Mae ymchwil wedi dangos bod diffyg cysylltiadau cymdeithasol yr un mor niweidiol i’n hiechyd â smygu 15 o sigarennau bob dydd (Holt-Lunstad, 2015).

Gall unigrwydd, fel hyder ac eiddilwch, fynd a dod, gan ein synnu’n aml.

Mae arwahanrwydd, ar y llaw arall, yn aml yn golygu nad oes dewis gennych ond bod ar eich pen eich hun. Mae rhai pobl yn hoff o fod ar eu pennau eu hunain, ond nid oes llawer sy’n dewis bod yn unig neu ar wahân, yn bennaf oherwydd nad yw’n iach.

Mae pobl unig yn aml yn cael eu heithrio o’r cyfleoedd y mae nifer ohonom ni’n eu cymryd yn ganiataol. Efallai bydd eu hunanwerth, eu hyder a’u gallu i ymddiried yn gostwng, sy’n lleihau eu gallu i gael cyfleoedd newydd a chwrdd â phobl newydd mewn sefyllfaoedd cyffredin bob dydd. Ond eto, o’r cyfleoedd hyn, rydym yn datblygu perthnasoedd, profiadau, mewnwelediadau, diddordebau newydd, a, gobeithio, ffrindiau newydd.

Gall hyd yn oed y cartref fod yn lle unig. Ein cymdogaeth yw lleoliad ein cartref, a gall gymdogion fod yn ffynhonnell werthfawr o gymorth, yn ogystal â’n hatgoffa o’n hunigrwydd.

Mae yna bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud o fewn ein cymdogaethau i alluogi’n hunain ac eraill i gael mwy o gefnogaeth a theimlo’n llai unig:

  • Dechreuwch gyda’ch stryd – dywedwch helo pan rydych chi’n gweld pobl a cheisiwch ddod i adnabod eich cymdogion
  • Cymerwch gip ar y bobl o’ch cwmpas yn y gymuned ac yn y gwaith – beth allwch chi ei wneud i gynnau cyfeillgarwch newydd ac i gynnwys pobl yn fwy?
  • Trefnwch Ginio Mawr a dechreuwch gysylltu cymdogion yn eich cymdogaeth – mae dros 50% o’r bobl sy’n trefnu un yn dweud eu bod yn teimlo’n llai ar wahân o ganlyniad i’r Cinio Mawr
  • Sefydlwch neu ymunwch â rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer eich ardal, fel Nextdoor.co.uk a defnyddiwch hyn i gysylltu â phobl wyneb yn wyneb
  • Rhannwch yr hyn sydd gennych chi – mae cyfnewid, benthyg a rhannu sgiliau gyda’r bobl o’ch cwmpas yn eich helpu i sefydlu cysylltiadau newydd

Mae’n siŵr ein bod ni i gyd yn adnabod rhywun sy’n unig neu’n ei chael hi’n anodd; efallai ein bod ni’n unig ein hunain, hyd yn oed. Yn amlach na pheidio, nid ydym yn cyfaddef hynny, ac rydym yn ansicr sut i ailgysylltu â’r byd. Gall adeiladu rhwydweithiau personol a chymdogaethau a chymunedau cryfach wneud gwahaniaeth.  

Gofalwch am ein hunain ac eraill, a chofiwch, mae gan bob un ohonom rywbeth i’w gynnig.

 

 

Mewn gwirionedd, roeddwn i’n unig iawn, ond dwyt ti ddim yn cyfaddef hynny, dim hyd yn oed i dy hun, heb sôn am bobl eraill.