
Dechreuwch brosiect cymunedol
Popeth sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
Os ydych chi’n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn eich cymuned, beth am ddechrau eich prosiect eich hun? Mae yna bobl wych yn union fel chi wrth galon llawer o fentrau cymunedol, yn cynnig cefnogaeth ac yn lledaenu caredigrwydd bob dydd.
Gall fod yn frawychus i ddechrau prosiect o’r dechrau, ond rydym yma gyda chi bob cam o’r ffordd. O ganllawiau cam wrth gam, cyngor ymarferol a rhwydwaith o bobl eraill o’r un anian, gallwn eich ysbrydoli a’ch cefnogi i wneud pethau anhygoel.

Amlinellwch eich gweledigaeth
Os nad ydych chi’n siŵr sut i sianelu’ch angerdd i newid go iawn, rydyn ni yma i helpu. Rydyn ni wedi creu fframwaith syml i’ch helpu chi i droi eich syniad yn realiti trwy osod eich gweledigaeth ac amlinellu eich camau nesaf.
Sut i roi cychwyn ar eich prosiect

Dod o hyd i ariannu ar gyfer eich cymuned
Mae llawer o brosiectau cymunedol gwych yn cael eu cyflawni gydag ychydig…

Seek council support (EN)
They can offer lots of help but early planning is needed.

Assess health and safety (EN)
Keep your Big Lunchers happy and healthy!

Cau ffordd
Os ydych yn awyddus i gynnal parti stryd (neu Ginio Mawr!) ac…

Sut i ymgysylltu â’ch cymuned
Mae’r ymgysylltwyr cymunedol gorau yn gofyn i bobl beth maen nhw ei eisiau cyn i’r prosiect ddechrau ac yn caniatáu i bobl chwarae rhan weithredol wrth ei ddylunio a’i gyflwyno.
Cwrdd â threfnwyr cymunedol eraill
Ymunwch â’n rhwydwaith o drefnwyr cymunedol i gwrdd â phobl eraill o’r un anian sy’n gwneud pethau anhygoel yn eu cymuned. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth gan ein tîm ar lawr gwlad, sy’n gweithio yn eich ardal i gefnogi mentrau cymunedol.
“Dechreuais gredu bod yr hyn a wnes i yn bwysig, bod pwrpas iddo, ac fe wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i’n cymuned. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’m grymuso ac roeddwn yn llawn brwdfrydedd i wneud y pethau hyn hyd yn oed yn well”