Cau ffordd
Os ydych yn awyddus i gynnal parti stryd (neu Ginio Mawr!) ac mae angen i chi gau’r ffordd, dylech holi eich cyngor am hyn cyn gynted â phosibl.
![Boys running with a football, boy carrying road closed ahead sign](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/02/Eden-Project-Communities-The-Big-Lunch-close-your-road.jpg)
Os ydych yn awyddus i gynnal parti stryd (neu Ginio Mawr!) ac mae angen i chi gau’r ffordd, dylech holi eich cyngor am hyn cyn gynted â phosibl.
Gallwch gynnal digwyddiad mewn arddull parti stryd ar gyfer eich Cinio Mawr ar unrhyw ddarn o dir neu mewn unrhyw adeilad megis gardd gymunedol, breifat neu dafarn; parc lleol; dreif; iard chwarae ysgol; eglwys; mosg; synagog; gurdwara neu deml – lle bynnag mynnwch chi, cyhyd â bod gennych chi’r caniatâd perthnasol gan y perchennog.
Os ydych chi eisiau cau’ch stryd, dyma sut i wneud hynny.
Cysylltu â’ch cyngor lleol
Mae’n well gwneud hyn cyn gynted â phosib gan fod rhai cynghorau angen hyd at 12 wythnos o rybudd.
- Os ydych chi yng Nghymru neu Loegr, dilynwch y camau ar ddogfen ‘Organising a street party’ ar wefan gov.uk
- OS ydych chi yn yr Alban, cysylltwch ag adran Ffyrdd a Chymunedau eich cyngor lleol
- Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan eich cyngor lleol a chwiliwch am y cyfarwyddyd ar gau ffyrdd ar gyfer digwyddiadau arbennig. Argymhellwn eich bod yn caniatáu digon o amser i wneud hyn oherwydd gall y broses gymryd rhwng 21 diwrnod a 16 wythnos. Os ydych yn ystyried gwneud hyn, cysylltwch â thîm Gogledd Iwerddon am gefnogaeth a chyngor
Rhagor o gyngor
Mae llawer o gyngor ar gau ffyrdd ar wefan Street Party.
Cysylltwch â ni
Os byddwch yn cael trafferth, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Cynnal y digwyddiad mewn lleoliad arall
Os nad yw cau’ch ffordd yn bosib, beth am gynnal eich digwyddiad mewn lleoliad arall. Gofynnwch i bobl yn eich cymuned am y lleoliadau maen nhw’n gwybod amdanynt, efallai bydd rhywun yn eich synnu gyda’r syniad perffaith am leoliad.
Nid yw defnyddio lleoliad dan do o reidrwydd yn golygu bydd rhaid i chi dalu chwaith; esboniwch eich sefyllfa i berchnogion y lleoliad – mae’n bosib y byddant yn hapus i gefnogi digwyddiadau lleol. Fel arall, beth am edrych am fan cymunedol awyr agored – byddwch yn denu mwy o bobl pan does dim ffiniau i’w croesi, a bydd pawb yn gallu gweld cymaint o hwyl rydych chi’n cael!
Os oes angen cefnogaeth arnoch i roi hwb i’ch digwyddiad, cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau ar gynyddu lefel eich dylanwad.
More like this
![Chalk on the road spelling out 'The Big Lunch'](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/03/pavement-chalk-1-640x426.jpg)
Seek council support
If you’re running an event in your community it can be a good idea to get your local council on side.
![Group of volunteers working around a table](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/03/How-to-recruit-volunteers-Eden-Project-Communities-640x426.jpeg)
How to recruit volunteers
The best time to ask people to get involved is when they’re fired up with enthusiasm, so here’s how to light that fire and…
![Man taking picture of three people next to a coach](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/02/Contact-the-local-media-to-promote-your-project-Eden-Project-Communities-640x427.jpg)
Contact local media
Contacting local newspapers, magazines, radio and newsletters is a good way of letting people in your community know about your event or project and…