
Cyflwyniad i Weithredu Cymunedol
Gwybodaeth am y cwrs
Yn llawn gweithdai, sgyrsiau ysbrydoledig, rhwydweithio a hwyl, mae’r cwrs Cyflwyniad i Weithredu Cymunedol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned. Mae lleoedd wedi’u hariannu’n llawn, ond mae galw mawr amdanynt felly anfonwch eich cais i mewn nawr!
Jump to:
Scroll down to next sectionAmserlen
Darllenwch fwy am gynnwys pob sesiwn.
Cysylltu: Rhannu Straeon
Dydd Llun 6 Tachwedd
6:30pm-8:30pm
P’un a ydych chi newydd ddechrau arni, os oes gennych chi syniad neu angerdd, neu os yw eich prosiect cymunedol eisoes yn weithredol, mae adrodd y stori yn ffordd wych o gysylltu, ymgysylltu a chreu cynnwrf! Yn Wythnos 1, rydym yn archwilio ein straeon ein hunain ac yn gwrando ar eraill yn rhannu eu rhai nhw, wrth i ni feddwl am ein cymunedau a’r newid cadarnhaol yr hoffem ei wneud.
0 %
o gyfranogwyr fod y cwrs wedi eu hysgogi i wneud rhywbeth yn eu cymuned
0
o brosiectau newydd o ganlyniad (ers 2013)
0 %
i sicrhau ariannu ar gyfer eu prosiect o fewn 6 mis i’r cwrs
Teimlais am y tro cyntaf yn fy mywyd fy mod wedi fy amgylchynu gan bobl a oedd yn rhannu’r teimlad ‘tân yn eich bol’ pan rydych yn angerddol am rywbeth yr ydych am ei wneud i wella bywydau pobl eraill. Roedd yn fwrlwm o bositifrwydd, o bobl a oedd yn fodlon bod yn agored a rhannu gwybodaeth gyda dieithriaid llwyr dim ond oherwydd eu bod eisiau helpu!
Kathryn

How ‘the Eden effect’ changed our community forever
Herbalist Maria Billington got the impetus to take on a community space from the council after attending a Community Camp at the Eden Project.…

What it’s like at a community camp? Kathryn’s story
Many potential campers are unsure if they’re the right fit for community camp, so we’ve interviewed former participant Kathryn to tell us a bit…

A tale of re-connection at Community Camp
Community Camp is all about making connections: bringing like-minded people from across the UK together to be inspire, educate, and share with one another.
Paratowch ar gyfer y sesiynau
Darllenwch y wybodaeth isod cyn eich sesiwn gyntaf.
Sut i ddefnyddio Zoom
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn dolen i gofrestru ar gyfer Zoom yn eich e-bost croeso.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gan Zoom yn cynnwys y ddolen i ymuno. Rydych chi’n defnyddio’r un ddolen ar gyfer pob un o’r pum sesiwn.
Os ydych chi’n cael trafferth ymuno â sesiwn, cysylltwch â communities@edenproject.com a byddwn yn eich helpu.
Beth sydd ei angen arnoch ar gyfer y sesiynau
Ar gyfer y rhan fwyaf o sesiynau, bydd angen ysgrifbin a phapur ac adnoddau o’ch Pecyn Croeso (a gewch yn y post cyn y sesiwn gyntaf).
Byddwn yn rhoi gwybod i chi ym mhob sesiwn os oes rhywbeth i ddod gyda chi ar gyfer yr un nesaf.
Ar ôl i’r cwrs ddod i ben, bydd gennych fynediad i’r holl adnoddau, canllawiau defnyddiol a gwybodaeth bellach.
Cysylltiadau a diogelu
Yn ystod y cwrs byddwch yn cwrdd â phobl newydd ac rydym am i bobl wneud cysylltiadau yn ddiogel, gan deimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
Rydym yn cydnabod bod hynny’n wahanol i wahanol bobl. Felly dim ond manylion personol neu brofiadau personol yr ydych yn hapus i’w rhannu y dylech eu rhannu, gan gofio parchu cyfrinachedd pobl mewn sgyrsiau, negeseuon preifat ac ystafelloedd ymneilltuo.
Recordio a ffotograffiaeth
Byddwn yn recordio pob sesiwn i bobl ddal i fyny arno. Dim ond gyda chyfranogwyr eraill y bydd dolenni i’r sesiynau’n cael eu rhannu.
Gallwch newid eich enw (neu rif os byddwch yn deialu i mewn) ar Zoom oherwydd bydd yn ymddangos ar y sgrin. Gellir gwneud hyn yn eich adran proffil os oes gennych gyfrif Zoom, neu pan fyddwch yn ymuno â’r sesiwn – gallwn helpu os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn.
Efallai y byddwn hefyd yn tynnu lluniau, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn i ni wneud hynny. Os byddai’n well gennych beidio ag ymddangos, trowch eich fideo i ffwrdd tra byddwn yn eu cymryd. Efallai y byddwn yn defnyddio’r delweddau hyn at ddibenion marchnata, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.

Ariennir gan y Loteri Genedlaethol
Diolch i gefnogaeth hael hariannwr ein rhaglen graidd, Y Loteri Genedlaethol, gallwn gynnal y cwrs ‘Cyflwyniad i Weithredu Cymunedol’ gwych hwn i rymuso ac ysbrydoli darpar drefnwyr cymunedol ledled y wlad.
Trwy ein partneriaeth barhaus gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gwaith caled ein tîm yn Eden a’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ein cenhadaeth yw helpu’r DU i gysylltu â’u cymunedau.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!