Skip to content

Hau hadau ar gyfer dôl flodau gwylltion

Trawsnewidiwch eich cymdogaeth trwy greu dôl flodau gwylltion mewn man anniben. Mae’n weithgaredd hwyliog yn ei rinwedd ei hun, mae’n fanteisiol i bryfed, a byddwch yn gweld canlyniadau o fewn 12 wythnos.

Beth fydd ei angen arnoch

Awgrym: i gasglu hadau o flodau sy’n bodoli eisoes, casglwch ychydig o flodau wrth iddynt ddechrau troi’n frown. Rhowch fag papur dros ben y blodyn marw a thorrwch y coesyn. Clymwch y bag ar y top cyn ei roi yn rhywle i sychu. Ewch yn ôl at y bag ar ôl ychydig wythnosau a dylech weld hadau ar y gwaelod. Os na, gallwch rwbio neu ysgwyd yr hadau o bennau’r blodau.

  • Man heulog – gardd ffrynt, gardd gymunedol neu rywle sydd angen ei fywiogi yn eich cymdogaeth. Y newyddion da yw bod y mwyafrif o flodau gwylltion yn ffynnu mewn pridd o ansawdd gwael, ac maent yn dod â fflach o liw i’r ardal.
  • Hadau blodau gwylltion – gallwch roi cynnig ar hadau’r elusen amgylcheddol Landlife’s Signature Wildflower Seed Mix neu, casglwch a chadwch yr hadau gwylltion sydd yn eich ardal. Mae garddwyr yn aml yn hapus i rannu neu gyfnewid hadau. Edrychwch am hadau sy’n helpu bywyd gwyllt fel gwenyn a gloÿnnod byw.
  • Tywod neu rywbeth tebyg i’ch helpu i wasgaru’r hadau yn gyfartal.
  • Ychydig o amser sbâr er mwyn gwneud gwaith garddio yn y gwanwyn neu’r hydref.
bunting two
Illustrative bunting string in teal and navy blue.

Cyfarwyddiadau

 

Dewiswch leoliad i’ch dôl flodau

Penderfynwch ar ble yr hoffech blannu eich dôl flodau. Peidiwch â thresmasu; os yw’r man sydd gennych mewn golwg ar dir diffaith sydd o bosibl yn eiddo preifat, gallwch ystyried bom hadau neu ddau os ydych chi’n awyddus i wneud ‘garddio gwerilaidd’.

 

Penderfynwch ar faint eich dôl

Dewiswch pa mor fawr ddylai’r ddôl fod. Dylech hau cymysgedd hadau Signature Wildflower Landlife 5g fesul metr sgwâr. Y mwyaf yw maint eich arddangosfa, y mwyaf trawiadol fydd hi – a’r mwyaf o wenyn a pheillwyr eraill y byddwch yn eu gweld, oherwydd mae gwerth cynefinoedd yn cynyddu gan ddibynnu ar ba mor fawr yw eu harwynebedd.

 

Paratowch y tir

Tynnwch unrhyw chwyn i roi cyfle i’ch blodau gwylltion cyn dechrau. Palwch dros yr ardal. Paratowch y pridd i fod yn fân ac yn friwsionllyd. Yr adeg orau i wneud hyn yw mewn tywydd sych.

Hau’r hadau

Mae hadau blodau gwylltion yn fân iawn ac yn hawdd i’w colli yng nghledr eich llaw, felly cymysgwch nhw â thywod sych, fermicwlit neu fran i’ch helpu i ddosbarthu’r hadau yn gyfartal dros ardaloedd mawr. Os na wnewch chi hyn, byddwch yn gweld un ardal yn llawn blodau a’r gweddill yn wag. Os yw’r tywydd yn gynnes ac yn sych, ewch â photel o ddŵr gyda chi i ddyfrio’r planhigion. Efallai y bydd angen gwneud hyn yn fwy aml os yw’r tywydd yn parhau i fod yn sych am gyfnodau hir.

Tymor yr hydref yw’r adeg orau i hau hadau planhigion a gasglwyd a’u cadw, gan fod angen gaeaf oer arnynt i ysgogi’r egino yn y gwanwyn. Os ydych yn storio’r hadau ar gyfer y gwanwyn canlynol, cadwch nhw mewn cynhwysydd wedi ei selio (rhag aer a llygod) mewn man sych ac oer.

 

Mwynhewch eich blodau

Dylai hadau sydd wedi eu hau ar ddiwedd mis Mawrth ddechrau blodeuo ar ddiwedd Mehefin. Tua 12 wythnos sydd rhwng hau a blodeuo’n llawn. Os ydych yn tocio’r blodau, cewch mwy o fywyd allan ohonynt.

Os oes gennych hadau yn sbâr…

anfonwch nhw at ffrind i ledaenu effaith y blodau!