Sut i wneud byntin
Mae byntin yn ychwanegu lliw at unrhyw ddigwyddiad, felly pa ffordd well o ledaenu'r hwyl na gwneud eich byntin eich hun? Gallwch wneud byntin yn hawdd o'r pethau sydd gennych yn eich cartref eisoes; mae'n broses syml a gall bawb gymryd rhan. Yn bwriadu cynnal parti stryd cymunedol? Beth am ofyn i bob cartref wneud ei baneri eu hunain cyn dod at eich gilydd i greu addurn cymunedol unigryw!
Bydd angen arnoch
- Cerdyn
- Siswrn
- Pensil
- Pren mesur
- Blu-Tack neu daciau
- Stribedi o ddeunydd
- Rhuban, tâp bias neu hyd yn oed hen lasys i glymu eich byntin
- Glud: tâp dwyochrog ochr, gwn glud, staplwr neu nodwydd ac edau
Cyfarwyddiadau
1) Gwnewch dempled
Gan ddefnyddio pren mesur, tynnwch amlinelliad o driongl ar eich darn o gerdyn. Defnyddiwch eich siswrn i dorri’r siâp allan yn ofalus i greu eich templed ar gyfer eich byntin. I gael siâp byntin clasurol, argymhellwn fesuriadau o 16cm ar gyfer y top a 22cm ar gyfer yr ochrau. Os ydych chi’n teimlo’n anturus, gallech roi cynnig ar wahanol siapiau a meintiau ar gyfer eich templed.
Templed byntin
2) Torrwch eich baneri
Atodwch dempled eich byntin at ddarnau o hen ffabrig gan ddefnyddio taciau neu Blu-Tack er mwyn i’r ffabrig beidio â symud pan fyddwch chi’n torri’ch baner allan. Torrwch o amgylch y templed yn ofalus i greu’r baneri ac ailadroddwch hwn tan fod gennych chi’r nifer sydd eu hangen arnoch.
3) Lledaenwch eich baneri
Lledaenwch eich baneri yn gyfartal ar hyd y deunydd rydych wedi ei dewis fel llinyn. Stribyn tenau o ffabrig yw tâp bias sy’n ddefnyddiol i dacluso ymylon anghyson ffabrig; gallwch ddod o hyd iddo mewn amryw liwiau a meintiau yn eich siop wnïo neu archfarchnad fawr agosaf. Mae rhuban hefyd yn gweithio’n dda ar gyfer byntin; ceisiwch ddod o hyd i liwiau a phatrymau llachar er mwyn tynnu sylw at eich byntin. Gallech hyd yn oed ddefnyddio heb lasys neu gortyn – byddwch yn greadigol!
4) Ewch ati i sticio
Atodwch eich baneri i’ch llinyn gan gofio gadael digon o le gwag ar bob pen i hongian eich byntin. Gallwch chi wneud byntin mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Ar gyfer byntin ffabrig, bydd nodwydd ac edau yn rhoi golwg gloyw hyfryd i chi, neu mae gwn glud poeth yn gyflym ac yn hawdd (byddwch yn ofalus o’ch bysedd gyda’r gwres).
- Ar gyfer byntin papur, defnyddiwch bwnsh twll ym mhob cornel o frig pob triongl, yna gwau rhuban drwy’r tyllau.
- Os nad oes gennych chi lawer o amser, rhowch gynnig ar dâp dwyochrog neu staplwr hyd yn oed!
5) Hongiwch eich byntin
…a mwynhewch!
Syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gwneud byntin
- Cofiwch, gellir gwneud byntin allan o bron unrhyw beth – sbarion wedi’u hailgylchu o hen ffabrig, hen ddillad, bagiau plastig neu hyd yn oed hen bebyll. Er mwyn lleihau gwastraff, meddyliwch am y deunyddiau y gallech eu hailddefnyddio. Os ydych chi wedi bod yn clirio, edrychwch trwy’r pentwr cyn mynd â dillad diangen i’r siop elusen, a defnyddiwch rai ar gyfer ffabrig.
- Edrychwch yn ofalus trwy eich ailgylchu – byddai blychau grawnfwyd, cylchgronau a phapurau newydd yn gweithio’n dda ar gyfer y fflagiau neu ar gyfer eu torri allan a’u glynu fel addurniadau.
- Os yw’ch deunydd wedi’i liwio neu os gallwch chi addurno’r ddwy ochr, bydd yn edrych yn hyfryd o bob cyfeiriad!
- Beth am ddefnyddio gwahanol liwiau neu ddyluniadau neu gallech ddilyn patrwm ailadroddus. Os ydych chi’n defnyddio deunydd plaen, beth am ei addurno gyda lluniau, paent, pinnau ffelt, stampiau, sticeri neu drysorau eraill y gallwch ddod o hyd iddynt.
- Gall eich baneri fod o unrhyw siâp mwy neu lai – does dim angen i chi gadw at y triongl traddodiadol. Beth am roi cynnig ar hirsgwarau neu fod yn greadigol a thorri siapau creadigol allan o bapur wedi’i ailgylchu wedi’i blygu (megis plu eira papur).
- Hongiwch linyn yn eich stryd, rhowch faneri trwy flychau llythyron a gwahoddwch bobl i ychwanegu eu baner eu hun.