Skip to content

Beth mae cymuned yn ei olygu i chi?

Cymuned – mae'n air yr ydym i gyd yn gyfarwydd ag ef. Boed yn deimlad o berthyn yn ein cymdogaeth neu’r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i’n gilydd mewn amserau anodd, mae gan gymuned ystyr unigryw i bob un ohonom.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ofyn i bobl o bob rhan o’r DU, “Beth mae cymuned yn ei olygu i chi?”. Datgelodd y storïau a rannwyd y ffyrdd niferus y mae cymuned yn ymddangos i bob un ohonom yn ein bywydau bob dydd a sut mae cysylltu â'n gilydd yn helpu i'n siapio ni a'r lleoedd rydyn ni'n byw ynddynt.

Dyma'r hyn yr oedd gennych chi i'w ddweud...

1) Gweithgareddau a diddordebau a rennir

O ioga cadair a Tai Chi i gwrdd am baned a theithiau cerdded mewn grŵp. Dywedoch chi fod cymuned yn ymwneud â chysylltu trwy fomentau a rennir. Cwrdd â phobl o’r un anian, creu cwlwm dros ddiddordebau a mwynhau cwmni da – gan ein hatgoffa mai’r pethau bach mewn bywyd sy’n bwysig a bod gennym ni i gyd gyfraniad i’w wneud. 

 

2) Perthyn ac undod

Wrth ei gwraidd, cymuned yw lle yr ydym yn perthyn iddi. Mae cymunedau’n ffynnu pan fyddwn yn dathlu ein gwahaniaethau, pan fyddwn yn gynhwysol a bod pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu clywed, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu bod yn nhw eu hunain – gan wneud y byd ychydig yn fwy disglair i bob un ohonom. 

A woman and a child gardening together at a community Big Lunch. They're smiling and look happy. The older woman is sharing her gardening skills with the child.

3) Cefnogi a gofalu am ein gilydd a rhoi rhywbeth yn ôl

Dywedoch chi fod cymuned yn ymwneud â rhoi hwb i’n gilydd – cadw llygad ar ein gilydd a chynnig cymorth pan fydd ei angen fwyaf. Mae gweithredoedd bach o garedigrwydd, fel rhoi help llaw neu ffonio rhywun, yn ffordd hawdd o ddweud ‘rydych chi’n bwysig’. Hefyd, mae rhoi yn ôl yn creu ymdeimlad o ddiben a gall danio effaith barhaus, gan ysbrydoli pobl eraill i rannu caredigrwydd hefyd. 

 

4) Cysylltiadau ymysg cenedlaethau a rhwng cenedlaethau

Mae cymunedau’n ffynnu pan ddaw pobl o bob oedran at ei gilydd. Boed yn wirfoddoli gyda grwpiau ieuenctid lleol, cefnogi ein cymdogion oedrannus neu wneud rhywbeth mor syml â chael sgwrs a bisged. Mae’r rhyngweithiadau hyn yn dod â gwerth i bob cenhedlaeth – gan gryfhau ein cymunedau. 

5) “Yr hen ddyddiau da”

Roedd rhai ohonoch yn teimlo’n hiraethus am gyfnod pan oedd cymunedau’n teimlo’n fwy clos, gyda chymdogion yn gofalu am ei gilydd a phlant yn derbyn gofal gan y gymuned gyfan. Ond mae’r hiraeth hwn hefyd yn tanio gobaith ac yn sbarduno gweithredu cadarnhaol – y dymuniad i ailgysylltu ac ailadeiladu. 

 

6) Gweithredu ar y cyd dros newid cadarnhaol

I lawer ohonoch, ceir ystyr cymuned yn y pŵer sydd gan bobl pan fyddant yn dod at ei gilydd ac yn creu rhywbeth pwrpasol. Yn ne Llundain, disgrifiodd gwirfoddolwr drawsnewid man gwyrdd segur yn ardal chwarae ddiogel 20 mlynedd yn ôl, ac mae’n dal i ffynnu heddiw. Gan ofalu am ein hamgylchedd, codi arian at achosion lleol ac ymgyrchu i achub mannau cyhoeddus, y cyfraniadau hyn at weithredu ar y cyd yw hanfod cymuned, ni waeth pa mor fawr neu fach y maent. 

Drosodd i chi!

Mae cymuned yn seiliedig ar garedigrwydd a chysylltiadau bob dydd. Felly beth am gysylltu â’ch cymdogion, rhannu bwyd a sgwrs gyda rhywun rydych chi am ddod i’w nabod yn well neu wahodd pobl eraill i ymuno â chi i ledaenu mwy o lawenydd yn eich cymuned? 

Mae pethau anhygoel yn digwydd pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd.