Shwmae ‘da Mins Pei

Pobwch neu prynwch ychydig o fins peis a’u rhannu gyda chymdogion, cydweithwyr, neu’ch cymuned ehangach. Arhoswch am funud, dywedwch helo a gwnewch amser i siarad y gaeaf hwn.

A man stands on a doorstep proffering a plate of mince pies. He's got a huge smile on his face.
  • Cynhaliwch ddiodydd galw heibio – rhannwch wahoddiad a dewch at eich gilydd dros sudd afal cynnes neu siocled poeth ac ychydig o fyrbrydau Nadoligaidd.

 

  • Curwch ar ddrws cymydog gyda mins pei, ewch am dro a sgwrs gyda chymydog arall nesaf, ac ati. Mwynhewch daith gerdded gyda mins pei o amgylch eich ardal!

 

  • Rhowch y rhodd o amser i rywun nad ydych yn ei adnabod yn rhy dda neu rywun nad ydych wedi dal i fyny â nhw ers tro. Rhowch y tegell ymlaen, rhannwch ychydig fins peis a chael sgwrs.

 

  • Byddwch yn Siôn Corn cyfrinachol a gadewch ddanteithion blasus ar garreg drysau neu ar ddesgiau yn y gwaith.

 

  • Cynhaliwch weithgaredd gaeafaidd fel gwneud mins peis, cardiau neu addurniadau – dewch at eich gilydd i grefftio dros baned a darn o gacen.

 

  • Rhannwch ginio Nadolig – gwahoddwch bobl i ddod â rhan wahanol o’r pryd a dod at ei gilydd am wledd Nadoligaidd, gyda’r trimins i gyd!

 

  • Cadair sbâr wrth eich bwrdd Nadolig? Gwahoddwch rywun sy’n byw ar ei ben ei hun i ymuno â chi am bryd o fwyd Nadoligaidd neu ddau.

Gwreichion o lawenydd

0

o syniadau wedi eu hau

0

camau a gymerwyd

0

mae pobl wedi ymuno â ni mewn digwyddiad gaeaf

An older woman gives a young girl a mince pie - they're both smiling and wrapped up warm. You can see a table full of delicious festive food.

Y Cinio Mawr adeg Dolig

Mae’r Cinio Mawr yn dod â miliynau o bobl at ei gilydd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar gyfer dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau.

Dros y Nadolig, rydym yn annog pawb i ddod â chymdogion, ffrindiau, cydweithwyr neu wirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu ein cysylltiadau a chadw ein cymunedau yn glyd. Mae gennym yr holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i gynnal Cinio Mawr adeg Dolig, o wahoddiadau i dempledi cracer a baneri bwyd.

Cynhaliwch Ginio Mawr adeg Dolig

“Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ein digwyddiad canu carolau – mae’n cael pawb i ysbryd yr ŵyl ac yn dod â’r gymuned gyfan at ei gilydd. Mae’n ymdrech tîm, gyda’r siop goffi annibynnol yn darparu coffi a thrydan am ddim ar gyfer ein trydanwr lleol, a chymdogion yn pobi mins peis a stollen i’w mwynhau.

Marilyn
A bunch of sprouts on a table with smiley faces drawn on and an Eden Project Communities flag sticking out.

Ryseitiau cynhesach y gaeaf

Lledaenwch lawenydd a chadwch yn glyd dros y misoedd oerach gyda’n detholiad o ryseitiau’r gaeaf a’r Nadolig.

Mae’n fwyd i godi’ch calon!

Porwch ein ryseitiau gaeaf (EN)

Mannau Croeso Cynnes

Gwyddom y gall y misoedd oer a thywyll fod yn heriol mewn sawl ffordd, yn enwedig i’r rhai sy’n poeni am fwyd a gwres, a’r rhai sy’n unig ac yn ynysig.

Mae ein ffrindiau yn Warm Welcome yn sicrhau bod gan bawb rywle cynnes a chyfeillgar i fynd iddo y gaeaf hwn. Mae ganddyn nhw fap sy’n rhestru eu holl Fannau Croeso Cynnes, lle gall cymunedau dod at ei gilydd ar gyfer cynhesrwydd a chysylltiad.

Os oes gennych chi fynediad i ofod cymunedol lleol, beth am ei restru ar fap Warm Welcome?

Help for Households event map

Digwyddiadau rhad ac am ddim a fforddiadwy

Mae ymgyrch Help for Households Llywodraeth y DU wedi llunio rhestr o weithgareddau am ddim a chost isel ledled Lloegr y gaeaf hwn.

Darganfod mwy


Stars gif small