Sleisys oren sych ar gyfer garland Nadoligaidd
Dyma sut i sychu sleisys oren a'u rhoi at ei gilydd gyda ffyn sinamon a dail llawryf ar gyfer garland Nadoligaidd persawrus!
Beth sydd ei angen arnoch chi
- Orennau, satsumas neu ffrwythau sitrws eraill (i ychwanegu ychydig mwy o liw, ceisiwch ychwanegu lemwn, leim neu rawnffrwyth)
- Ffyn sinamon
- Dail llawryf, celyn neu wyrddni eraill
- Unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu at eich garland
1) Sleisiwch yr orennau
Dechreuwch trwy sleisio’r oren yn ddarnau tua hanner centimetr o drwch. Bydd sleisys tenau’n sychu’n gynt ond peidiwch â phoeni os nad yw pob darn union yr un maint.
2) Gwnewch dwll
Ar ôl sleisio’r oren, gwnewch dwll ar dop pob darn gan ddefnyddio eich sgiwer neu weillen fwyta. Bydd gweillen fwyta yn gwneud twll mwy a fydd yn gwneud hi’n haws i roi eich garlant at ei gilydd.
3) Amser i fynd yn y ffwrn
Nesaf, rhowch y sleisys oren ar silff oeri. Byddant yn sychu’n gynt ac yn fwy cyson ar silff oeri ond gallwch hefyd ddefnyddio silff bobi gan roi’r sleisys ar bapur pobi. Rhowch nhw yn y ffwrn ar y tymheredd isaf y bydd yn mynd iddo am 4 awr.
Pan nad yw’r sleisys oren yn suddlon bellach, tynnwch nhw o’r ffwrn a’u gadael i oeri. Os ydyn nhw’n teimlo braidd yn ludiog, peidiwch â phoeni, gadewch nhw i sychu’n drwyadl dros nos.
4) Rhowch y cwbl at ei gilydd
Nawr, mae’n bryd rhoi eich garlant at ei gilydd!
Gwthiwch eich cortyn neu ruban trwy’r twll wnaethoch chi yn un o’ch sleisys oren a chlymwch gwlwm ar y diwedd. Yna, rhowch y sleisys eraill a’r ffyn sinamon ar y cortyn gan adael lle rhwng bob un i newid hyd y garlant. Cofiwch wneud cwlwm ar ôl y sleis olaf.
A dyna chi, addurn sy’n edrych (ac yn arogleuo) fel y Nadolig y gallwch ei fwynhau bob blwyddyn!