Pom-poms papur
Mae gwneud pom-poms papur yn weithgaredd syml, rhad a hwylus ac yn ffordd wych o ychwanegu ychydig o lawenydd i gartref, canolfan gymunedol neu gymdogaeth. Ar ben hynny - os byddwch yn eu gwneud gyda hen bapurau newydd, mae'n ffordd wych o ailgylchu ac ailddefnyddio!
Bydd angen arnoch
I wneud un pom-pom, bydd angen arnoch tua 8-12 darn o bapur. Awgrym da – os ydych chi’n defnyddio papur sidan, beth am ddefnyddio gwahanol liwiau i wneud pom-pom amryliw!
- Papur (neu bapur sidan neu bapur newydd)
- Weiren grefft denau
- Llinyn neu ruban
- Siswrn
- Torrwr weiren
Cyfarwyddiadau
1)
Pentyrrwch y darnau o bapur, cymerwch yr ymyl hir a phlygwch stribyn bach o’r papur – tua 2 fodfedd. Flipiwch y pentwr o bapur drosodd a’i blygu ar ei hyd eto, gan ddefnyddio’r plyg cyntaf i’ch tywys. Cadwch at i blygu yn y modd hwn tan i chi gyrraedd diwedd y papur. Pwyswch i lawr i wasgu’r plygion.
2)
Hoffech chi gael pom-pom crwn neu un pigog? Ar gyfer pom-pom crwn, llyfnwch ddau ben y pentwr o bapur gan ddefnyddio siswrn. Ar gyfer pom-pom pigog, torrwch y ddau ben yn drionglau.
3)
Clymwch y weiren grefft o amgylch canol y pentwr o bapur a’i droelli i’w gadw mewn lle. Gyda diwedd y weiren, crëwch ddolen er mwyn i chi allu hongian y pom-pom pan fyddwch chi wedi gorffen.
4)
Tynnwch bob dalen allan yn ysgafn a lledwch y papur i greu pom-pom. Ail-osodwch y papur tan eich bod yn hapus gyda’r drefn – ond byddwch yn ofalus i beidio â’i rwygo! Gyda’r ddolen, atodwch ddarn o linyn neu ruban a’i hongian.
Diolch Better Homes and Gardens.
Ta-da! Dyna chi, eich pom-pom papur!
Sut hwyl gawsoch chi? Buasem wrth ein boddau yn gweld eich campweithiau.