Skip to content

Gwneud baneri calendr Adfent

Os ydych chi eisiau dysgu sut i wneud baneri calendr Adfent, cymerwch olwg ar y canllaw syml hwn ac ewch ati i grefftio!

Codwch galon eich cartref, gofod cymunedol, ysgol neu weithle gyda byntin calendr adfent yr ŵyl. Mae pob diwrnod yn boced fach y gallwch chi ei defnyddio i storio siocled, negeseuon caredig neu anrhegion bach eraill!

Bydd angen arnoch

  • Rhywbeth i hongian darnau eich byntin arno, megis rhaff/rhuban/llinyn/cortyn
  • Ffabrig neu ffelt – patrymog neu liwiau plaen, digon ar gyfer 24 siâp dwbl ochr (gyda ffabrig neu ffelt ychwanegol ar gyfer y rhifau)
  • Siswrn miniog
  • Rhywbeth i sticio neu wnïo popeth at ei gilydd e.e. edau brodio, glud ffabrig, cotwm, wonder web
  • Unrhyw ategolion megis gleiniau neu fotymau
  • Peiriant gwnïo (dewisol)
Wooden craft templates

1) Torrwch eich templedi allan

Ar gyfer ein un ni, fe ddefnyddion ni bren haenog ond fe allech chi ddefnyddio cerdyn stiff – torrwch flwch cardbord yn ddarnau. Mae yna bob math o siapiau y gallech chi eu creu ond cofiwch fod angen i chi eu pwytho neu eu gludo at ei gilydd (felly efallai y bydd sêr ychydig yn fwy trafferthus i’w gwneud!).

Beth am geisio:
• hosanau
• coed
• ffyn candi
• pobl sinsir
• peli Nadoligaidd
• clychau

Cutting fabric to a template

2) Trasiwch eich siapiau

Gwnewch amlinelliad o’ch templed ar y ffabrig neu ffelt, yna torrwch eich darnau allan. Cofiwch adael ychydig o le ychwanegol ar gyfer pwytho neu lud.

Ar y pwynt hwn, torrwch allan y rhifau ar gyfer eich byntin Adfent hefyd. Os oes gennych chi ffabrig patrymog ar gyfer eich siapiau, mae’n fwy effeithiol cael eich rhifau mewn ffabrig plaen (neu i’r gwrthwyneb!).

Fel arfer mae’n werth cynhyrchu ychydig yn ychwanegol, rhag ofn y bydd unrhyw anffawd ar hyd y ffordd!

Red felt christmas crafts

3) Ychwanegwch unrhyw addurniadau

Defnyddiwch lud neu bwyth ar eich rhifau adfent neu unrhyw addurniadau eraill – a allai fod yn pompomau, plu eira a sêr bach neu rywbeth arall.

Person making christmas stockings from fabric

4) Penderfynwch sut byddwch yn rhoi’r cwbl at ei gilydd

Gallwch ddefnyddio glud ffabrig, peiriant gwnïo, gwnïo â llaw neu wonder web.

Os ydych yn defnyddio peiriant gwnïo, trowch eich templedi cefn wrth gefn cyn gwnïo. Cofiwch beidio â gwnïo top eich poced, dyna le byddwch yn rhoi’ch dantaith Adfent! Yna, trowch y boced y ffordd gywir. Os nad ydych yn defnyddio peiriant, sticiwch eich holl elfennau at ei gilydd pa bynnag ffordd sydd orau.

 

Homemade Christmas stocking

5) Rhoi eich byntin at ei gilydd

Hongiwch eich darnau byntin ar eich llinyn neu dâp gan ddefnyddio pegiau, neu gan greu tyllau bach ar ben pob darn. Yna, rhowch eich anrhegion bach i mewn a’i hongian yn barod i’r Adfent ddechrau!

Nawr eich bod chi’n gwybod sut i wneud calendr adfent, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw dod o hyd i rywle i’w hongian ac i gasglu pethau i’w rhoi ynddo. Mwynhewch!

Diolch i Mandi a Katrina

Mae Mandi a Katrina yn rhan o grŵp crefftau a grëwyd ganddynt yn Llanelli o’r enw ‘All about us’. Fe ddarparon nhw’r cyfarwyddiadau a’r delweddau ar gyfer y byntin Nadoligaidd gwych hwn.