Skip to content

8 gweithgaredd crefft hwyliog gyda phapur

Mae gwneud addurniadau ar gyfer eich digwyddiad yn ffordd wych o ddod â phobl ynghyd ac adeiladu ysbryd cymunedol! Gellir gwneud ein gweithgareddau ar geiniogau gan ddefnyddio deunyddiau cartref hefyd.

Mae’r rhain hefyd yn weithgareddau crefft papur hawdd iawn i blant, gyda’r rhieni a’r gwarcheidwaid yn ein tîm yn rhoi sêl bendith arnynt fel gweithgaredd am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol.

Sut i wneud pom-poms papur

 

Gwnewch bom-poms papur

Gwnewch bom-poms gwlân (EN)

 

Cipolwg: Da ar gyfer grwpiau o bob oed er efallai y bydd plant bach yn eu cael braidd yn drafferthus

Amser: 1 awr

Deunyddiau: papur (8-12 dalen yn gwneud un pom pom), gwifren grefftau, llinyn/rhuban, siswrn, torrwr gwifren

Beth sy’n dweud ‘dathliad’ yn fwy na pom poms blewog hyfryd?! Gellir gwneud y rhain gyda phapur, papur sidan, hen bapur lapio neu bapur newydd, ac maent yn weithgaredd grŵp gwych dros baned o de. Llinyn o’r nenfwd neu ei ddefnyddio fel darnau canol y bwrdd.

 

Templedi byntin (neu gwnewch rai eich hun!)

 

Gwnewch eich byntin eich hun

Templedi byntin (EN)

Cipolwg: Da i grwpiau o bob oed (gwnewch yn siŵr bod gennych chi rywun sy’n hyderus ar ysgol i’w hongian)

Amser: 1 awr (gweithgaredd da i’w neilltuo a’i ail-gychwyn pan fydd gennych amser!)

Deunyddiau: Bron iawn unrhyw ddeunydd cartref! Mae cardbord, hen ddillad, toriadau deunydd a phapur wal yn berffaith i’w torri’n fflagiau, tra gall hen swatshis ffabrig wneud siapiau parod i chi eu haddurno a’u llinynnu gyda’ch gilydd!

Gall linyn o fyntin ddod â theimlad yr ŵyl i barti stryd, Cinio Mawr, gofod cymunedol neu hyd yn oed eich ystafell fyw eich hun. Mae gennym ni awgrymiadau da ar gyfer gwneud rhai eich hun neu dempledi defnyddiol y gallwch eu hargraffu – rhowch gynnig ar fyntin traddodiadol, byntin yr wyddor neu fyntin Y Cinio Mawr.

Woman in garden making paper pom poms

Cadwyni papur pobl hawdd

 

Canllaw ar wneud gadwyni papur pobl (EN)

Cipolwg: Da i blant ifanc eu haddurno

Amser: 30 -90 munud

Deunyddiau: papur neu gerdyn trwchus, pinnau, tâp neu styffylwyr i’w gosod ar waliau

Yn llawer haws na thorri stribedi a’u dolennu at ei gilydd, dim ond ychydig o ddeunyddiau sydd eu hangen ar gadwyni papur pobl a gellir eu personoli’n hawdd – beth am roi cynnig ar dynnu gwisg wahanol ar bob person papur – gweithgaredd gwych i gadw’r rhai bach yn brysur am ychydig oriau!

Templed coron addas ar gyfer Brenin neu Frenhines!

 

Templed coron y gellir ei argraffu (EN)

Cipolwg: Da ar gyfer dathliadau a phlant ifanc hyd at bobl ifanc yn eu harddegau

Amser: 1 awr

Deunyddiau: dwy ddalen A4 o bapur neu gerdyn trwchus, pensiliau a beiros, blodau, addurniadau, glud (dewisol), tâp gludiog/styffylwr, siswrn

Gyda’n templed coron argraffadwy, y cyfan sydd angen i chi boeni amdano yw gwneud eich coron yn addas i chi! Rydym yn argymell lliwio i mewn, defnyddio hen fotymau fel ‘tlysau’ neu wneud coron natur gyda blodau, dail a gwahanol fathau o wair.

Yn chwilio am ysbrydoliaeth? Yn ystod yr haf cynhaliom gystadleuaeth i ddod o hyd i’r goron natur cartref orau! Wnaeth y plant a ymgeisiodd ddim siomi!

Duke Street Primary School children wearing homemade nature crowns for a wild crowns competition

Silwetau ffenestr gaeaf

 

Templedi silwét ffenestr (EN)

Cipolwg: Da i blant, gweithgaredd perffaith ar gyfer diwrnod gwlyb

Amser: 30 munud – 1 awr

Deunyddiau: cerdyn du, pensil, siswrn, tâp/ blu tack

Yn berffaith ar gyfer Calan Gaeaf neu Nadolig, mae’n siŵr y bydd silwetau ffenestr yn dod â llawenydd i’ch stryd wrth i’r nosweithiau dynnu i mewn.

Gall calendr adfent stryd yn arddangos y dyddiadau yn eich ffenestri fod yn llawer o hwyl hefyd a gall annog cymdogion i fynd allan am dro i weld yr holl ddyluniadau hyfryd.

Papur hadau y gellir ei blannu – sêr hadau

 

Canllaw i sêr hadau (EN)

Hadau blodau gwyllt Eden (EN)

Cipolwg: Hawdd i’w wneud, yn hwyl i bob grŵp oedran

Amser: Ar ôl eu torri, gellir gwneud sawl un mewn 30 munud neu lai

Deunyddiau: papur o ailgylchu, siswrn, blawd a dŵr i wneud glud, pecyn o hadau

Mae’r rhain yn gwneud anrhegion hardd ac yn dda ar gyfer bioamrywiaeth – y gweithgaredd perffaith ar gyfer crefftwyr sy’n caru natur! Yn ein profiad ni, rydym yn awgrymu plannu cyn gynted ag y gallwch i roi’r siawns orau i’r hadau egino. Os ydych chi’n cael grŵp cymunedol i gymryd rhan gall hyn fod yn ffordd hyfryd (EN) o ail-wylltio gofod a rennir.

Field of colourful wildflowers

Addurnwch eich baner papur eich hun

 

Templed baner y gellir ei argraffu (EN)

Cipolwg: Syml iawn i’w wneud a’i bersonoli

Amser: 30 munud – 1 awr

Deunyddiau: sisyrnau, tâp, pinnau ysgrifennu/pensiliau lliwio a disgleirio opsiynol

Naill ai lawrlwythwch ein templed defnyddiol neu gwnewch un eich hun, y naill ffordd neu’r llall, mae chwifio eich baner eich hun yn ffordd wych o ddathlu parti stryd!

Llusernau helyg gyda’r ‘waw ffactor’

 

Gwnewch eich llusern helyg eich hun (EN)

Cipolwg: gweithgaredd grŵp gwych ar gyfer dathliad, ac un sy’n dda fel gweithgaredd awyr agored

Amser: cwpl o oriau

Deunyddiau: papur sidan, glud PVA a brwsh paent/sbwng, cannwyll fach LED, tâp masgio, cansen gardd/bambŵ/helyg, siswrn gardd

Ychydig mwy o ymdrech ond bob amser yn boblogaidd, mae llusernau helyg yn creu parêd hwylus neu addurniadau priodas trawiadol y gellir eu gwneud adref.  Yn ffefryn yn ein gwersylloedd cymunedol, rydym yn argymell gwneud y rhain pan fydd gennych ddigon o amser a lle – byddai prynhawn celf a chrefft mewn canolfan gymunedol yn berffaith.

Byddem wrth ein bodd yn gweld eich creadigaethau

Byddem wrth ein bodd yn gweld eich creadigaethau a chael gwybod a gymerodd eich cymuned ran yn eich gweithgareddau celf a chrefft – rhannwch gyda ni ar Facebook, Twitter, Instagram, neu e-bostiwch ein tîm yn communities@edenproject.com.

Gallwch hefyd gael mwy o ganllawiau celf a chrefft gwych fel y rhain yn syth i’ch mewnflwch trwy gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr misol.