Beth yw CIC?
CIC yw Cwmni Buddiannau Cymunedol. Darganfyddwch fwy am gwmnïau buddiannau cymunedol, pryd a sut y dylech chi sefydlu un ac awgrymiadau gwych gan bobl anhygoel sy'n rhedeg CIC.

Beth yw CIC?
Os ydych chi’n ystyried dechrau menter gymdeithasol, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau neu pa strwythur busnes sy’n iawn i chi.
Gadewch i ni egluro rhai o’r prif fathau o fentrau cymdeithasol –
- Mae Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) yn gwmni sydd â’r pwrpas o fod o fudd i’r gymuned yn hytrach na budd-ddeiliaid preifat. Nid yw CIC yn elusen ac mae angen ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau. Bwriedir iddynt fod yn hawdd i’w sefydlu ac yn hyblyg i’w gweithredu.
- Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) yn fath o elusen sydd wedi’i dylunio i fod yn symlach i’w sefydlu na mathau eraill o elusen. Elusennau yn cael eu rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau ac yn elwa o fanteision treth ac ariannol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o elusennau ar wefan gov.uk (EN).
- Sefydliad sy’n bodoli i ddiwallu anghenion cyffredin ei aelodau yw menter gydweithredol. Mae’n eiddo ar y cyd ac yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan yr aelodau hynny.
Rydyn ni’n mynd i ganolbwyntio ar CIC yn yr erthygl hon, ond os ydych chi am ymchwilio’n ddyfnach i’r gwahanol fathau o strwythurau elusennol, gwyliwch y weminar hon (EN) gyda’n tîm a Colin McNally o CJM Accountancy. Mae’n llawn manylion defnyddiol a chyngor i’ch helpu i wneud eich penderfyniad.
Pam sefydlu CBC?
Mae ffurfio CIC yn rhatach ac yn gyflymach na sefydlu math arall o fenter gymdeithasol.
Unwaith y byddwch wedi cofrestru’ch CIC gyda Thŷ’r Cwmnïau, gallwch ddechrau gweithredu ar unwaith, ond gall gymryd llawer mwy o amser i gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau. Hefyd, dim ond un cyfarwyddwr sydd ei angen arnoch i gychwyn CIC, yn hytrach na’r tri Ymddiriedolwr sy’n ofynnol ar gyfer elusennau.
O gymharu â CIO ac elusennau eraill, mae llai o ofynion adrodd a mwy o hyblygrwydd yn y ffordd yr ydych yn rhedeg eich busnes. Ond un anfantais yw nad ydych yn gymwys i gael grantiau ac ariannu sydd ar gael i elusennau.
Dewis rhwng CIC a CIO?
Os nad ydych chi’n siŵr pa lwybr i’w ddewis, peidiwch â phoeni. Mae’n weddol syml newid o CIC i CIO os ydych chi’n penderfynu bod buddion strwythur elusennol yn werth chweil i’ch menter gymdeithasol.
Emily Connally sy’n arwain y Cherwell Collective CIC, sy’n anelu at leihau ôl troed carbon y gymuned drwy greu seilwaith i gefnogi economi gylchol. Dysgodd am Gwmnïau Buddiannau Cymunedol wrth ymchwilio i wahanol fathau o strwythur cwmni.
Dywedodd hi: “Fe ddysgon ni fod yna broses uniongyrchol o sefydlu CIC felly mae’n cael ei ystyried yn gwmni di-elw ac mae’n hawdd symud y cwmni hwnnw i elusen yn ddiweddarach, sef rhywbeth yr oeddem eisiau ei gael fel opsiwn. Roedd hynny’n gwneud strwythur y CIC yn ddeniadol iawn”.
Mae Cordelia Richman yn rhedeg yr elusen Jetty Lane sy’n codi arian ar gyfer canolfan gymunedol i frwydro yn erbyn amddifadedd diwylliannol ac annog cysylltiadau rhwng cenedlaethau. Dechreuodd Jetty Lane fel CIC a throsglwyddodd i CIO ar ôl i gyfreithwyr ddweud y byddai’n haws sicrhau ariannu fel elusen.
Eglura Cordelia: “Yn dilyn dymchwel Canolfan Ieuenctid Woodbridge yn 2016, daeth grŵp o bobl â meddylfryd cymunedol at ei gilydd i achub y safle rhag cael ei ddatblygu ac adfer cyfleuster ieuenctid yno. Rhoddodd y Cyngor Sir flwyddyn i ni lunio Cynllun Busnes hyfyw, ac roedd hyn yn golygu bod angen i ni sefydlu mudiad di-elw addas cyn gynted â phosibl.
Roedd yn ymddangos mai CIC oedd yr opsiwn cyflymaf a hawsaf, ac roedd hynny’n gywir. Roedd 5 ohonom, fe drefnom y gwaith papur ein hunain, talu’r ffi hynod resymol a chawsom ein corffori’n brydlon.
Cordelia Richman, Jetty Lane
Straeon Emily a Cordelia

From CIC to charity… creating a new community hub
When Cordelia Richman moved from Peckham, London, to a small market town in Suffolk, she was determined to carry her passion for volunteering into…

How Cardiff Salad Garden CIC support their volunteers
Cardiff Salad Garden, a Community Interest Company (CIC) combining growing organic, fresh salad with working with disadvantaged people, were keen to organise a Big…

Reducing waste with the Cherwell Collective
Emily Connally is the founder of Cherwell Collective, a community interest company using the principles of a circular economy to empower local people to…
Awgrymiadau da gan ein sylfaenwyr CBC
Fe ofynnom i Cordelia ac Emily rannu eu hawgrymiadau da os ydych yn ystyried sefydlu CIC.
- Mae llawer o ganllawiau ar-lein ac os ydych yn ofalus ynghylch cadw cofnodion cywir, yn enwedig cyfrifon, ni ddylech gael unrhyw broblemau.
- Cael bwrdd sy’n credu yn eich gweledigaeth. Gallwch bob amser gael arbenigwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â’r bwrdd ond mae’n bwysig iawn yn y dyddiau cynnar hynny bod y CIC yn cael ei lywio gan weledigaeth glir. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei gyflawni a sut y gall cael cwmni eich helpu i gyrraedd yno, a gwnewch yn siŵr bod eich bwrdd yn gweld y weledigaeth honno hefyd.
- Mae adnoddau gwych ar gael ar wefan gov.uk ac maent yn gwneud y broses yn syml iawn. Fe wnaethom hefyd fynychu hyfforddiant a gweithdai a defnyddio adnoddau sydd ar gael yn lleol i geisio sicrhau ein bod yn deall yr hyn yr oeddem yn ei wneud.
Sut i gychwyn arni
Os ydych chi wedi penderfynu sefydlu CIC, darllenwch drwy adran ‘Setting up a social enterprise’ (EN) ar wefan Gov.uk i nodi eich camau nesaf.
Bydd angen i chi ysgrifennu ‘datganiad buddiannau cymunedol’, sy’n amlinellu’r weledigaeth ar gyfer eich busnes a’r hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud.
Efallai y byddwch am estyn allan at eraill i gael cymorth a chyngor cyn dechrau eich cais. Yn aml mae cefnogaeth ar lefel leol, megis y grwpiau yn Swydd Rydychen yr ymgynghorodd Emily â nhw. Os ydych yn chwilio am gymorth ychwanegol, cysylltwch â’ch Datblygwr Rhwydwaith Cymunedol lleol a gallwn helpu i’ch rhoi mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi bod trwy’r profiad o’r blaen.

Cefnogwch eich cymuned
Os ydych chi’n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn eich cymuned, beth…

Dechreuwch brosiect cymunedol
Cael effaith gadarnhaol yn eich cymuned trwy ddechrau prosiect i gefnogi eraill.…

Syniadau ac adnoddau
Porwch ein hysbrydoliaeth am brosiectau cymunedol, syniadau ar gyfer eich grŵp neu…

Meet the team
Our team is made up of lovely people who know what it…