Skip to content

Beth i’w blannu i fywiogi’ch cymuned

Mae plannu bylbiau, blodau gwyllt a choed yn ffordd wych o godi calon eich cartref a’ch cymuned, ac nid oes angen cymaint o le arnoch ag y byddech yn ei feddwl. Mae ychydig o le yn mynd yn bell! Cymerwch olwg ar ein hawgrymiadau gwych ar sut a beth i blannu i fywiogi eich ardal leol.

Beth i’w blannu yr hydref hwn

Mae’r hydref yn amser perffaith i blannu blodau a choed y gaeaf neu dyfu llysiau gaeaf, a byddant yn dod â lliw a hwyl yn ystod dyddiau tywyll y gwanwyn nesaf.

Wedi dweud hynny, cadwch lygad am rew cynnar neu dywydd gwael ac ystyriwch orchuddio’r ddaear neu’r potiau rydych chi wedi’u plannu ynddynt os yw’r tywydd yn troi’n oer yn gyflym iawn. Gall deunyddiau presennol fel sachau a deunydd lapio swigod sydd mewn cyflwr da fod yn dda i inswleiddio a lapio’ch potiau.

Hadau

Mae pys pêr yn wych i’w tyfu yr adeg hon o’r flwyddyn, yn ogystal â phlanhigion unflwydd gwydn megis:

  • glas yr ŷd (Centaurea cyanus)
  • tamaid y cythraul
  • esgoblys (Ammi majus)

 

Bylbiau

Chwiliwch am fylbiau a fydd o fudd i bryfed peillio, megis:

  • allium hollandicum ‘Synhwyriad Porffor’
  • bleidd-dag y gaeaf (Eranthis hyemalis)
  • clychau dulas yr ardd (muscari armeniacum)

 

Llysiau

Rhai llysiau da i’w plannu y tymor hwn yw:

  • cennin
  • cêl
  • bresych gwyrdd y gaeaf
  • brocoli porffor

 

Coed

Chwiliwch am fathau lleol o ffrwythau o afalau a gellyg – byddant yn rhoi gwledd i chi yr hydref nesaf!

Coed Cadw yn rhoi coed am ddim i gymunedau

Gallwch wneud cais am goed am ddim gan Coed Cadw i’w plannu yn eich ysgol neu gymuned Mae yna amrywiaeth o opsiynau yn dibynnu ar ba fath o le sydd gennych chi. Mae ceisiadau ar agor nawr tan fis Ionawr, gyda phecynnau coed yn cael eu dosbarthu ym mis Mawrth.

Dewis beth i’w blannu

Nid oes angen i chi gael mynediad i fannau gwyrdd mawr i ychwanegu rhywfaint o natur i’ch cymuned. Yn dibynnu ar siâp neu faint eich gofod, rydym wedi rhoi ein hawgrymiadau gorau ar blannu at ei gilydd.

 

Os oes gennych batio, ali, stepen drws neu ffenestr, beth am botiau plannu neu flychau ffenestr. Gallwch eu haenu â bylbiau a deiliach arall i ddarparu amrywiaeth o liwiau a gweadau trwy gydol y flwyddyn (gweler ein hawgrymiadau hydref isod!). Byddwch yn greadigol gyda’ch planwyr – meddyliwch am ddefnyddio hen welintons, tebot neu sinciau wedi’u taflu, neu defnyddiwch baent lliw llachar i sbriwsio hen botiau planhigion. Gellir hoelio hen baletau ar ffensys i ddarparu silffoedd sylfaenol. Unwaith y byddant wedi’u plannu, nid oes angen llawer o ôl-ofal arnynt ac eithrio ychydig o chwynnu a dyfrio. Plannu blodau yn eich stryd.

 

Os oes gennych chi ddarn o dir, fe allech chi hau blodau gwyllt i greu dôl fechan o flodau gwyllt. Bydd yn byrstio â lliw ac yn wych ar gyfer gwenyn, ieir bach yr haf a pheillwyr eraill. Sut i hau blodau gwyllt.

 

Os oes gennych chi wely blodau codi neu rywbeth tebyg, beth am dyfu rhai llysiau neu berlysiau i’ch cymuned eu rhannu? Gallwch ddefnyddio hen gasgenni neu ferfâu fel planwyr hefyd – maen nhw’n gweithio’n dda iawn ar gyfer llysiau fel tatws, neu gnydau o ddail fel letys neu sbigoglys. Cymerwch olwg ar ein cyngor ar dyfu eich llysiau neu berlysiau eich hun ar gyfer Y Cinio Mawr.

 

Os oes gennych chi fynediad i ardal fwy o fannau gwyrdd cymunedol, gallech chi wneud cymysgedd o’r uchod, neu ystyried plannu coed neu wrych hefyd! Maent yn wych ar gyfer bywyd gwyllt, yn bwysig ar gyfer ansawdd aer a chipio carbon a gallant ddarparu digonedd o ffrwythau ac aeron – beth sydd ddim i’w hoffi?!

A group of people working together to put some soil in a planter. It looks cold - everyone is wearing hats - but there are smiles all round.

Amser tacluso

Unwaith y bydd y rhan fwyaf o blanhigion wedi blodeuo a llysiau wedi’u cynaeafu, mae’r hydref a’r gaeaf yn amser da i dacluso unrhyw fannau gwyrdd a pharatoi ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae hefyd yn adeg bwysig o’r flwyddyn i gefnogi bywyd gwyllt gan fod eu ffynonellau bwyd yn llawer llai niferus dros fisoedd y gaeaf.

 

  • Os oes gennych chi goed sy’n taflu eu dail yn agos atoch chi, beth am greu pentyrrau dail? Mae draenogod, brogaod a bywyd gwyllt arall yn hoffi swatio ymhlith dail a brigau marw. Gallech greu arwydd bach yn dangos y gallai bywyd gwyllt fod yn cysgu yno a gofyn i bobl beidio ag aflonyddu arnynt.
  • Peidiwch â bod yn rhy frysiog i dorri popeth yn ôl – gall pryfed dreulio’r gaeaf wedi’u cyrlio y tu mewn i goesynnau gwag. Os nad ydyw yn ffordd neb, nid oes dim niwed mewn gadael rhai pethau fel y maent.
  • Weithiau gall yr hyn sy’n dda i fywyd gwyllt edrych yn flêr i bobl ac mae’n achosi gofid mewn cymunedau. Beth am ddechrau sesiwn codi sbwriel i symud y ffocws i sbwriel o waith dyn a sbriwsio eich ardal leol? Efallai y cewch eich synnu gan faint o bobl sy’n ymuno os oes gennych chi offer codi sbwriel a dillad llachar sbâr, ac mae’n ffordd wych o ddechrau sgyrsiau agored am sut hoffech chi i’ch cymuned edrych.

 

A planter outside a pub filled with bright flowers

Gweithio gyda Punch Pubs i greu ‘Pybiau Peillio’

Rydyn ni wedi ymuno â Punch Pubs i’w helpu i wneud eu tafarndai yn hafan i wenyn, ieir bach yr haf a pheillwyr eraill. Derbyniodd y tafarndai a gymerodd ran hadau blodau gwyllt, bylbiau crocws a chanllaw plannu i helpu i sbriwsio eu gofodau. Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r canlyniadau!

Os byddai gan eich busnes ddiddordeb mewn rhywbeth tebyg, cysylltwch â’n Pennaeth Partneriaethau.

Buasem wrth ein boddau yn gweld eich ymdrechion!

Tynnwch lun cyn ac ar ôl i’w anfon atom ac mae’n bosibl y byddwn yn eu cynnwys mewn cyfres ‘sbriwsio ein cymdogaeth’ y flwyddyn nesaf.