Skip to content

Creu ffenestri adfent hudol

Gall ffenestri Adfent helpu ein cymunedau i ddisgleirio'n llachar dros y gaeaf. Ceisiwch greu arddangosfa silwét ffenestr yn eich cartref a gofyn i eraill wneud yr un peth, mae'n ffordd hwyliog a hawdd i ddod ag ychydig o lawenydd cymunedol a gall pawb ymuno!

Gwnewch eich ffenestr Adfent eich hun

Hongiwch oleuadau neu lun, arddangoswch eich addurniadau harddaf neu byddwch yn greadigol gyda sialc… dewch o hyd i’r artist cudd ynoch chi ac ychwanegwch ychydig o lawenydd i ddiwrnod y sawl sy’n cerdded heibio. Gwahoddwch eich cymdogion i gymryd rhan hefyd ac rydych chi wedi creu oriel aeaf y tu allan lle gall pawb ryfeddu at y ffenestri.

Un o’n hoff ffyrdd o drawsnewid eich tŷ yw silwét ffenestr syml. Mae yna rai syniadau gwych ac ysbrydoliaeth ar Window Wanderland, a rhai camau isod i’ch helpu chi i greu eich arddangosfa hudol eich hun…

Sut i wneud silwetau ffenestr

 

Bydd angen arnoch:

  • Cerdyn du
  • Papur trasio (os ydych yn copïo dyluniad)
  • Papur sidan lliw (dewisol)
  • Pensil
  • Siswrn neu gyllell finiog iawn
  • Glud
  • Tâp neu blu tack

Lawrlwythwch dempledi ffenestr

1) Dyluniwch eich silwét

Dewiswch beth hoffech chi greu silwét ohono a lle bydd yn mynd. Mae’n bosib y byddwch yn dewis gwneud un mawr a mesur eich holl ffenestr neu’n gwneud rhywbeth llai i gychwyn.  .

Cofiwch ddewis man bydd pobl yn gallu gweld wrth iddynt gerdded heibio – nid oes rhaid iddo fod yn ffenestr hyd yn oed!

 

2) Tynnwch lun eich siâp ar gerdyn du

Tynnwch eich siâp ar y cerdyn du. Gallwch naill ai wneud silwét bloc neu rywbeth mwy cywrain gyda rhannau wedi’u torri allan (fel tŷ gyda ffenestri).

Os ydych chi’n cael trafferth yn meddwl am syniadau neu eich bod eisiau creu rhywbeth yn sydyn, beth am lawrlwytho ac argraffu ein templed a thorri allan neu drasio’r dyluniad ar gerdyn du.

 

3) Torrwch eich siâp allan

Gan ddefnyddio siswrn neu gyllell finiog iawn, torrwch allan eich siâp ac unrhyw fanylion yn ofalus iawn.

Gan ddibynnu ar eich dyluniad, torrwch a gludo’r papur sidan ar gefn eich cerdyn i lenwi unrhyw fylchau fel ffenestr wydr lliw.

 

4) Glynwch eich dyluniad at y ffenestr

Defnyddiwch dâp neu blu tack i roi eich dyluniad ar y ffenestr (gan sicrhau ei fod yn wynebu tuag allan). Wrth i’r noswaith dywyllu, trowch eich goleuadau ymlaen, camwch du allan i weld eich dyluniad yn disgleirio’n llachar.

Trefnwch Galendr Adfent Byw

Ewch â’ch ffenestri Adfent i’r lefel nesaf gyda Chalendr Adfent Byw: dadorchuddiwch ffenest adfent newydd bob nos am ychydig o hwyl yr ŵyl gyda’r gymuned. Mae ein ffrind Amy wedi bod yn trefnu un yn ei hardal leol ym Mharc Whitehall ers blynyddoedd – mae hi wedi ysgrifennu ei chyngor isod!

 

1) Diffiniwch eich ardal

Mae’n bwysig bod yn glir ar y ffiniau daearyddol ar gyfer eich prosiect, neu fe all ddod yn wasgarog ac yn anhydrin. Targedwch ardal benodol, fel eich stryd neu ardal breswyl sydd wedi’i diffinio’n glir.

 

2) Recriwtiwch wirfoddolwyr

Ychydig fisoedd cyn mis Rhagfyr, dewch at eich gilydd i roi cyflwyniad i bobl i’r prosiect a’u hysbrydoli i gymryd rhan. Cynhaliodd Amy noson caws a gwin; mae rhai byrbrydau da yn sicr o gael gwirfoddolwyr parod i chi! Fe fydd arnoch chi angen digon o dai i gymryd rhan felly bydd gennych chi ffenestr newydd i’w dadorchuddio bob nos o’r Adfent. Darllenwch ein hawgrymiadau ar sut i recriwtio gwirfoddolwyr yma. Unwaith y byddwch wedi cael pobl i gymryd rhan, sefydlwch grŵp Facebook neu WhatsApp i rannu diweddariadau, newyddion a chreu ymdeimlad o gymuned o amgylch y prosiect.

Living advent calendar

3) Nodwch bartneriaid

Meddyliwch am bwy all eich helpu i ledaenu’r gair. A oes unrhyw gyhoeddiadau neu gylchlythyrau lleol a allai fod o gymorth? Gallech gysylltu â’ch cymdeithas trigolion leol, eglwys neu ysgol gyfagos, neu’ch cyngor. Efallai y bydd busnesau lleol hefyd yn fodlon cynnig cymorth.

 

4) Gwnewch amserlen a map

Unwaith y byddwch chi’n gwybod pwy sy’n cymryd rhan, neilltuwch ddiwrnod o Adfent i bob cartref. Unwaith y bydd hyn wedi’i wneud, mae’n syniad hyfryd creu amserlen a map y gallwch eu defnyddio i ddangos i bobl pa Ffenest Adfent newydd fydd yn cael ei dangos bob dydd. Does dim rhaid i hyn fod yn ffansi: gwnewch fap bras o’r ardal sy’n cymryd rhan, dwdlo rhai tai a labelwch bob un gyda’r diwrnod Adfent y byddan nhw’n ei gynrychioli. Gallwch argraffu’r rhain a gofyn i wirfoddolwyr eu dosbarthu o amgylch y gymuned. Neu, rhowch gynnig ar greu map rhyngweithiol ar-lein – gan roi dolen i chi ei rhannu gyda chymdogion. Ac os oes angen help arnoch, gofynnwch a oes gan unrhyw un brofiad o wneud hyn o’r blaen, mae’n debygol y bydd gan rywun!

 

5) Mwynhewch yr arddangosfeydd

Mynd i’r gwahanol arddangosiadau yw’r rhan orau o’r prosiect! Casglwch y tu allan i bob arddangosfa gydag ychydig o win cynnes a mins peis a mwynhau edrych ar y ffenestri hyfryd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu digon o luniau i rannu eich profiad ag eraill. Postiwch nhw ar eich grŵp Facebook neu WhatsApp fel y gallwch chi gynnwys pawb a mwynhau edrych yn ôl ar sut y datblygodd eich Calendr Adfent Byw.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich stori

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i drefnu Ffenestri Adfent yn eich cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Mae gweld creadigaethau ffenestri adfent hudol pawb yn rhoi gwên enfawr ar ein hwynebau!