
Y Cinio Mawr adeg Dolig
Mae’r Cinio Mawr yn dod â miliynau o bobl at ei gilydd i rannu cyfeillgarwch, bwyd a hwyl ar gyfer dathliad blynyddol y DU ar gyfer cymdogion a chymunedau. Mae’n syniad syml sy’n cael effaith gadarnhaol barhaus ar y rhai sy’n cymryd rhan.
Rydym yn annog pawb i ddod â chymdogion, ffrindiau, cydweithwyr neu wirfoddolwyr at ei gilydd i ddathlu ein cysylltiadau a chadw ein cymunedau yn glyd.
Dyma’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i gynnal Cinio Mawr adeg Dolig, o wahoddiadau i dempledi cracer a baneri bwyd.

Fe wnaeth ein Cinio Mawr dros y Nadolig helpu pobl a allai fod yn teimlo’n unig. Rwyf wrth fy modd â’r syniad o bobl yn dod at ei gilydd, yn enwedig pan fyddant yn bwyta. Gall pawb ddod i ymuno.
Eloner


Eisiau’r cyfan?
Lawrlwythwch ein holl adnoddau gyda’i gilydd mewn un bwndel.

Pum ffordd y gall eich sefydliad gymryd rhan
Mae llawer o ffyrdd y gall eich busnes, ysgol neu grŵp cymunedol ymuno yn Y Cinio Mawr adeg Dolig a helpu i ledaenu cynhesrwydd a chysylltiadau dros gyfnod yr ŵyl.
Dyma rai ffyrdd hawdd y gall eich sefydliad ymuno â’r Cinio Mawr adeg Dolig.

Cynlluniwch eich digwyddiad ar-lein gyda More Human
Mae gan ein ffrindiau yn More Human offeryn cynllunio digwyddiadau defnyddiol sy’n ei gwneud hi’n hynod hawdd cynllunio’ch digwyddiad ar-lein!
Ychwanegwch yr holl fanylion i mewn a byddan nhw’n gwneud y gweddill i chi, gan roi’r offer i chi reoli’ch digwyddiad a deunyddiau hyrwyddo fel posteri.
Hefyd, maen nhw’n hapus i roi cefnogaeth 1:1 i chi os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi!
Cynlluniwch eich digwyddiad gyda More Human
Mannau Croeso Cynnes
Gwyddom y gall y misoedd oer a thywyll fod yn heriol mewn sawl ffordd, yn enwedig i’r rhai sy’n poeni am fwyd a gwres, a’r rhai sy’n unig ac yn ynysig.
Mae ein ffrindiau yn Warm Welcome yn sicrhau bod gan bawb rywle cynnes a chyfeillgar i fynd iddo y gaeaf hwn. Mae ganddyn nhw fap sy’n rhestru eu holl Fannau Croeso Cynnes, lle gall cymunedau dod at ei gilydd ar gyfer cynhesrwydd a chysylltiad.
Os oes gennych chi fynediad i ofod cymunedol lleol, beth am ei restru ar fap Warm Welcome?
Gwreichion o lawenydd
0
o syniadau wedi eu hau
0
camau a gymerwyd
0
mae pobl wedi ymuno â ni mewn digwyddiad gaeaf
Ble nesaf?

Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd
Gall unrhyw un o unrhyw oedran fod yn unig.

Cefnogwch eich cymuned
Os ydych chi’n angerddol am gael effaith gadarnhaol yn eich cymuned, beth…

Ryseitiau
Mae bwyd yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd.…

Beth i’w blannu i fywiogi’ch cymuned
Mae plannu bylbiau, blodau gwyllt a choed yn ffordd wych o godi…