Pum ffordd y gall sefydliadau ymuno â’r Cinio Mawr adeg Dolig
Mae llawer o ffyrdd y gall eich busnes, ysgol neu grŵp cymunedol ymuno yn Y Cinio Mawr adeg Dolig a helpu i ledaenu cynhesrwydd a chysylltiadau dros gyfnod yr ŵyl.

Gall cynnal Cinio Mawr ddod â chydweithwyr neu’ch cymuned ynghyd, dathlu gwirfoddolwyr neu hyd yn oed arddangos eich gwaith. Ac yn fwy na hynny, does dim angen iddo fod yn bryd o fwyd ffurfiol gyda’r trimins i gyd phawb yn eistedd wrth y bwrdd (er nad ydym yn eich stopio rhag gwneud hynny…!).
Dyma rai ffyrdd hawdd y gall eich sefydliad ymuno â’r Cinio Mawr adeg Dolig.
Cadwch eich drysau ar agor ar ôl oriau a chynhaliwch ddiodydd galw heibio
Dewch at eich gilydd dros sudd afal cynnes neu siocled poeth ac ychydig fyrbrydau Nadoligaidd. Beth am estyn y gwahoddiad i’r rhai gerllaw, fel eich siop frechdanau neu siop trin gwallt leol, a rhoi rhai enwau i’r wynebau hynny rydych yn eu gweld yn rheolaidd?
Dewch â phobl at ei gilydd gyda gweithgaredd
Cynhaliwch weithgaredd Nadoligaidd fel gwneud mins peis, cardiau neu addurniadau – dewch at eich gilydd i grefftio dros baned a darn o gacen. Gall gwneud rhywbeth gyda’ch gilydd helpu i adeiladu cyffro, rhoi cychwyn ar y sgyrsiau hynny a chaniatáu i bawb deimlo’n rhan o rywbeth.
Meddyliwch am wahodd pobl o adrannau eraill – neu ddosbarthiadau yn eich ysgol – i helpu pawb i ddod i adnabod ei gilydd ychydig yn well!
Cofiwch gynnwys eich gweithwyr o bell
Mae llawer o bobl yn teimlo’n ynysig dros gyfnod y Nadolig a gall hyn fod yn waeth i weithwyr o bell. Er bod anrhegion yn syniad hyfryd, nid ydynt yn cymryd lle cysylltiad go iawn.
Beth am anfon cerdyn Nadolig ac ychydig o de, coffi neu siocled poeth ac annog pobl i ddod â’u paned i alwad Nadoligaidd? Cofiwch y gall galwadau grŵp mawr fod yn eithaf brawychus, felly ystyriwch gael grwpiau bach mewn ystafelloedd grŵp. Cymerwch olwg ar ein Bwydlen Sgwrsio os ydych chi’n poeni am beth i siarad! Neu, anfonwch git bach o grefftau allan (mae ein cracers yn berffaith!) a gofynnwch i bawb ddod at ei gilydd i greu crefft Nadolig ar alwad.
Rhoddwch eich parti Dolig!
Yn lle bwyta allan, dewch â rhywbeth i’w rannu gyda’ch gilydd mewn bwffe cartref a rhoddwch yr arian sydd wedi’i gynllunio ar gyfer eich dathliad tîm i grŵp cymunedol lleol, achos da neu rywun a allai elwa mwy ohono.
Neu, dewch â’ch tîm at ei gilydd i fynd i gefnogi eich cymuned leol – beth am wirfoddoli mewn banc bwyd am ddiwrnod neu wneud sesiwn codi sbwriel yn yr ardal? Mae llawer o elusennau yn cynnig diwrnodau gwaith tîm corfforaethol lle mae popeth wedi’i drefnu, felly does ond angen i chi ddod.
Agorwch ofod cymunedol lleol
Dewch â phobl i mewn o’r oerfel am baned a sgwrs, neu rhowch y gwahanol grwpiau sy’n defnyddio’r ganolfan mewn cysylltiad â’i gilydd. Neu gwahoddwch eich holl wirfoddolwyr at ei gilydd ar gyfer sgwrs dal i fyny Nadoligaidd.