Skip to content

Pum ffordd o gymryd rhan yn Y Cinio Mawr heb wario ceiniog! 

Nid oes angen i ddigwyddiadau cymunedol fel Y Cinio Mawr fod yn fawr nac yn ffansi, pobl yw'r prif gynhwysyn. Felly cymerwch olwg ar yr awgrymiadau hyn, cofrestrwch am eich pecyn am ddim a byddwch ar eich ffordd i ddiwrnod llawn hwyl heb wario ceiniog!

Dewch â’r hanfodion

Mae’n debygol bod gennych chi rai o gynhwysion hanfodol y Cinio Mawr gartref. Meddyliwch am fyrddau, cadeiriau, llieiniau bwrdd, platiau a chyllyll a ffyrc. Cynigiwch fenthyg yr hyn sydd gennych cyn rhedeg allan i brynu pethau!

 

Crëwch restr o ganeuon i’w chwarae

Nid yw parti heb gerddoriaeth yn parti! Allech chi greu rhestr o ganeuon i’w chwarae gyda’ch hoff artistiaid i ddod gyda chi? Meddyliwch am gynnwys rhywbeth at wahanol chwaeth ac oedrannau ac efallai rhai caneuon plant ar gyfer gêm o gadeiriau neu gerfluniau cerddorol. Syniad braf arall am ddim yw cael pawb i diwnio i mewn i’r un orsaf radio ac agor eu ffenestri a’u drysau i greu sain amgylchynol!

 

Defnyddiwch yr hyn sydd eisoes yn y cwpwrdd

Gallwch chi wneud bwyd parti gwych o’r cynhwysion cwpwrdd symlaf, felly cymerwch olwg a gweld beth allwch chi ddod o hyd iddo. Mae saladau pasta, reis a ffa yn rhad ac yn hawdd i’w gwneud ac yn gyfeiliant gwych i unrhyw fwyd parti poeth neu oer ar eich bwrdd Cinio Mawr.

Byddwch ychydig yn greadigol, a gallwch droi’r salad tatws diymhongar yn rhywbeth mwy ffansi, trwy ychwanegu sbigoglys, perlysiau fel cennin syfi a phersli neu fwstard at eich mayonnaise. Mae pethau fel picls, olewydd a hadau cymysg, y gallai fod yn cuddio yng nghefn y cwpwrdd, yn ychwanegu diddordeb, crensh a lliw i unrhyw salad!

 

Byddwch yn greadigol

Allech chi wneud addurniadau neu byntin ar gyfer y diwrnod, neu goron neu ddwy hefyd, os mai Cinio Mawr y Coroni yw hi? Mae ein templed byntin a’n canllaw a thempled i wneud coron yn syml a hawdd i’w defnyddio ac yn ffordd wych o gael plant i gymryd rhan hefyd. Ceisiwch ddefnyddio hen ddarnau o ffabrig neu unrhyw gerdyn neu bapur lliw sydd gennych gartref ar gyfer eich baneri, i wneud defnydd o’r hyn sydd gennych. Os ydych chi’n bod yn greadigol gyda’r plant, cymerwch olwg ar ein Syniadau am Weithgareddau ar gyfer a’r Cinio Mawr am ragor o syniadau i’w wneud yn hwyl iddyn nhw hefyd.

 

Cynigiwch eich amser

Ah, amser. Yr adnodd mwyaf gwerthfawr oll. Ein hawgrym olaf yw meddwl sut y gallech chi gynnig helpu i baratoi pethau ar gyfer Y Cinio Mawr. Efallai y gallech chi helpu rhywun yn y gegin, gosod y byrddau a’r cadeiriau neu baratoi rhai gemau i’r plant? Rydych chi’n dueddol o ganfod bod pobl yn gwerthfawrogi cymorth a charedigrwydd yn fwy nag unrhyw beth y gallwch ei brynu ag arian.