Skip to content

Paratoi eich Cinio Mawr ar gyfer unrhyw dywydd

Glaw mawr neu haul crasboeth - beth bynnag ddaw?

Rydyn ni wrth eu bodd yn siarad am y tywydd. Nid yw’n syndod pan fydd yn newid cymaint, ac mor gyflym! Nid yw’r natur anrhagweladwy honno’n ddelfrydol pan fyddwch chi’n ceisio cynllunio digwyddiad awyr agored – gall hyd yn oed drefnu barbeciw fod yn anodd.

Ond gydag ychydig o greadigrwydd a chynllunio, gall eich digwyddiad awyr agored fod yn llwyddiant mawr – boed law neu hindda.

Dyma ein hawgrymiadau gwych er mwyn paratoi eich digwyddiad ar gyfer unrhyw dywydd.

 

1) ) Meddyliwch am loches 

Boed yn bwrw glaw neu’n heulog, bydd trefnu rhyw fath o loches yn helpu’r diwrnod i ddod yn llwyddiant sicr. Dyma rai syniadau am loches beth bynnag fo’r tywydd:

  • Chwiliwch am orchudd – gasebo / bwa / deildy / pergola / pabell fawr / pabell – os nad oes gennych chi un, beth am ofyn i gymydog neu ffrind? Bydd gan lawer o bobl yr offer hwn yn casglu llwch yn eu sied
  • Agorwch y garej! Gyda’r drws yn llydan agored ac ychydig gadeiriau cynfas gallwch werthfawrogi’r tywydd o’r tu mewn – hyd yn oed os yw’n arllwys i lawr!
  • Trefnwch eich Cinio Mawr o dan gysgod coeden neu strwythur.
  • Trefnwch le amgen dan do ymlaen llaw. Os oes clwb / neuadd gymunedol / eglwys gerllaw, gallai fod yn opsiwn wrth gefn os yw’r tywydd yn wael iawn! Maen nhw’n aml yn gost-effeithiol iawn i’w llogi neu hyd yn oed am ddim, yn enwedig os ydych chi’n cynnig gwneud ychydig o arddio neu dasg arall yn gyfnewid!

 

2) Casglwch eitemau defnyddiol 

Mae rhai pethau ychwanegol y gallech eu prynu/herfyn/benthyg i helpu i baratoi hefyd.

  • Ymbarelau
  • Blancedi neu sgarffiau
  • Eli haul
  • Ponchos gwrth ddŵr
  • Ffans llaw
  • Cysgodion rhag gwynt
  • Chwistrell pryfed
  • Pwysau – i ddal i lawr unrhyw beth sy’n debygol o hedfan i ffwrdd! Mae llyfrau trwm bob amser yn ddefnyddiol.

 

3) Diogelwch unrhyw fwyd

Byddai’n ofnadwy pe bai rhywbeth yn digwydd i’r holl fwyd hyfryd yna! Dyma rai awgrymiadau ar gyfer ei gadw’n ffres ac yn ddiogel i’w fwyta…

  • Dewch â bwyd mewn cynwysyddion tupperware – gallwch chi roi’r caead yn ôl ymlaen pan fyddwch chi wedi gorffen ei weini, a bydd yn amddiffyn y bwyd rhag pryfed neu wenyn meirch.
  • Lapiwch y bwyd mewn deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio neu ffoil – eto, i orchuddio unrhyw fwyd a’i gadw’n ffres. Gellir ailgylchu ffoil hefyd – golchwch i ffwrdd unrhyw fwyd os yw’n fudr, a’i roi yn y bin ailgylchu.
  • Defnyddiwch focs oeri – mae’r rhain yn ddelfrydol i helpu i gadw bwyd a diodydd yn oer, ond maen nhw hefyd yn ddefnyddiol i gadw bwyd yn sych ac yn ddiogel.
  • Meddyliwch am focsys plastig neu storfa ddiddos – sicrhewch eu bod yn gwrthsefyll y tywydd a gallent hefyd fod yn lloches ddiogel ar gyfer eiddo pobl.

 

4) Cadwch eich gwesteion yn hydradol ac yn hapus

  • Os yw’n boeth iawn, gwnewch yn siŵr bod cyflenwad cyson o ddŵr yfed ffres i sicrhau bod eich gwesteion yn cadw’n hydradol, yn enwedig mewn tywydd poeth… a pheidiwch ag anghofio dod â phowlenni o ddŵr ar gyfer unrhyw gŵn hefyd!
  • Os yw’n oer, gwlyb neu wyntog, ystyriwch gael wrn dŵr poeth neu ofyn i rywun fynd i ferwi’r tegell i weini diodydd poeth i’ch gwesteion. Mae’n rhyfeddol beth gall paned boeth ei wneud i’ch cadw’n gynnes ar ddiwrnod oer.

Gweld holl ganllawiau’r Cinio Mawr