
Ble i gynnal eich Cinio Mawr
Dyma rai syniadau ar gyfer lleoliadau ar gyfer eich Cinio Mawr.
Parti stryd
Gall cau eich ffordd ar gyfer parti stryd traddodiadol fod yn ffordd hwyliog iawn o gymryd drosodd y stryd am ddiwrnod, cael hoe fach oddi wrth y traffig a chanolbwyntio ar gysylltiadau â chymdogion. Ond gall gymryd amser i ofyn am ganiatâd felly dechreuwch yn gynnar. Ond os nad yw’n bosibl cau eich ffordd, neu os nad yw’n iawn i’ch cymdogaeth neu gymuned peidiwch â phoeni, mae gennym ni lwyth o syniadau eraill!
Cyfarfod stryd
Mae cyfarfodydd stryd yn gyfle i gymdogion gwrdd ar dramwyfa, mewn man parcio neu ardd flaen, ar y palmant neu unrhyw fan ymarferol ar stryd nad yw’n golygu cau’r ffordd. Ateb perffaith os oes gennych chi le, gwnewch yn siŵr bod yr holl gymdogion yn hapus gyda’r man a ddewiswyd, nad ydych chi’n rhwystro’r palmant i gerddwyr eraill, ac ar y diwrnod cadwch y plant yn ddiogel a gwnewch yn siŵr na allant grwydro i mewn i’r ffordd.
Paciwch bicnic
I gadw pethau’n syml beth am gwrdd ym man gwyrdd eich cymdogaeth leol a dod â blancedi i eistedd arnyn nhw. Mae cael picnic yn y parc, bwyta rholia selsig mewn rhandir, neu fwyta creision mewn cae, yn ffordd hawdd o ddod at eich gilydd, jyst pennwch amser a lleoliad!
Mannau cymunedol
Mae llawer o leoedd ar gyfer cynulliadau cymunedol o’ch cwmpas, o ganolfannau cymunedol, ysgolion, clybiau chwaraeon ac eglwysi i neuaddau pentref, meysydd parcio a chaffis cymunedol. Felly, siaradwch â phobl yn lleol i weld pa opsiynau allai fod ar gael. Gallwch hefyd ddefnyddio’r Cinio Mawr i godi arian at achosion lleol – ac i dalu am unrhyw gostau llogi’r lle.
Ym mhentref Burn, Gogledd Swydd Efrog, mae trigolion wedi bod yn cynnal Cinio Mawr yn flynyddol ers 2009 – ym maes parcio’r dafarn leol!
Ewch ar-lein
Y ffordd berffaith o ddal i fyny â phobl nad ydynt efallai’n teimlo’n hyderus mewn grŵp mawr, neu ffrindiau sy’n byw yn rhywle arall – gall cymuned olygu mwy na’r cymdogion agosaf i chi yn unig!
Byddwch yn greadigol
Ers dechrau yn 2009, rydym wedi gweld digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn pob math o leoliadau a ffyrdd, gan gynnwys Cinio Mawr ar gwch, mewn lonydd cefn llawn gwyrddni, mewn stad o dai newydd ei hadeiladu, a sawl Cinio Mawr Fin Nos hyfryd.
Ychwanegwch eich digwyddiad at fap y Cinio Mawr
Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar y lleoliad perffaith ar gyfer eich Cinio Mawr, peidiwch ag anghofio ei ychwanegu at fap Y Cinio Mawr! Gallwch hefyd bori drwy’r holl ddigwyddiadau sy’n digwydd yn eich ardal chi (neu edrych ymhellach am ysbrydoliaeth ar gyfer eich Cinio Mawr!).
More like this

Sut i gynnal Cinio Mawr yn eich ysgol
Mae yna ddulliau i integreiddio’r Cinio Mawr yn eich gwersi yma yn ogystal â gweithgareddau a syniadau ar gyfer y diwrnod.

Sut i wahodd pobl i ddigwyddiad – Curo pryder gwahodd
Darllenwch ein hawgrymiadau gwych ar sut i guro’r nerfau hynny a gwahodd eich cymdogion i Ginio Mawr neu ddigwyddiad cymunedol! Cofrestrwch ar gyfer eich…

Adnoddau Addysgu Rhad ac Am Ddim
Gweithio gyda phlant? Mae gennym ddewis gwych o adnoddau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 i 4 i’ch helpu i gynnwys disgyblion o wahanol oedrannau…