Skip to content
Schoolchildren in uniform stood around metal bowls

Adnoddau Addysgu Rhad ac Am Ddim

Gweithio gyda phlant? Mae gennym ddewis gwych o adnoddau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1 i 4 i’ch helpu i gynnwys disgyblion o wahanol oedrannau a chyfnodau.

I nodi’r flwyddyn hynod arbennig hon, rydym wedi creu set o adnoddau yn arbennig ar gyfer Coroni EF y Brenin ac EM Y Frenhines.

A pheidiwch ag anghofio pori ein hadnoddau eraill hefyd!

Pori’r holl adnoddau

Cysylltu â’r cwricwlwm

Mae’r Cinio Mawr yn cysylltu’n dda â nifer o elfennau o’r cwricwlwm a bywyd ysgol, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol, coginio a bwyta’n iach, lles ac iechyd meddwl a gwrth-fwlio.

Cinio Mawr y Coroni: Gweithgaredd Coronau Gwyllt

I gydnabod pryder Ei Fawrhydi’r Brenin a’i Mawrhydi’r Frenhines Gydweddog am yr amgylchedd a gan gymryd ysbrydoliaeth o’n cynlluniau gwersi rhad ac am ddim, rydym yn galw ar blant ledled y DU i wneud ‘Coronau Gwyllt’ o ddeunyddiau naturiol ac wedi’u hailgylchu a’u gwisgo nhw â balchder i ddathlu Cinio Mawr y Coroni!

Darganfod mwy


Adnoddau addysgu Y Cinio Mawr