Skip to content

Sut i gynnal Cinio Mawr yn eich ysgol

Mae yna ddulliau i integreiddio'r Cinio Mawr yn eich gwersi yma yn ogystal â gweithgareddau a syniadau ar gyfer y diwrnod.

Rydyn ni’n gwybod bod ysgolion yn lleoedd prysur, sy’n cael eu rhedeg gan bobl brysur, ond does dim rhaid i’r Cinio Mawr fod yn fawr nac yn gymhleth. Isod mae rhai awgrymiadau i wneud Y Cinio Mawr mor hawdd â phosibl i chi.

Cynllunio Cinio Mawr

Ffurfiwch grŵp cynllunio Cinio Mawr a gweithiwch gyda’ch plant ysgol i wneud y diwrnod yn llwyddiant. Gofynnwch i’ch dosbarth restru beth maen nhw’n meddwl sy’n gwneud parti da a phopeth y byddai ei angen arnyn nhw i drefnu un. Gallech chi eu hannog i ofyn i bobl o bob oed am eu hoff bartïon, beth wnaethon nhw, pa fwyd oedd yno a pham roedd yn gymaint o hwyl.

Peidiwch ag anghofio cofrestru i gael eich pecyn Y Cinio Mawr am ddim i gychwyn arni, ac mae’n cynnwys adnoddau defnyddiol am ddim megis gwahoddiadau a phosteri.

Archebwch eich pecyn Y Cinio Mawr am ddim (EN)

 

Bwyd

Mae’r Cinio Mawr yn ymwneud â’r weithred syml o ddod at ein gilydd dros fwyd. Os bydd disgyblion yn dod â’u pecyn bwyd eu hunain i mewn, beth am eu hannog i ddod â rhywbeth arbennig i mewn, fel pryd y gwnaethant eu hunain neu hoff rysáit teuluol a’i wneud yn destun siarad?

Os yw’ch ysgol yn darparu cinio i’ch myfyrwyr, canolbwyntiwch ar sut y gallwch ei wneud yn fwy cymdeithasol; beth am annog gwahanol grwpiau oedran i eistedd gyda’i gilydd neu weithio fel ysgol i dyfu rhywbeth ar gyfer eich Cinio Mawr – mae dail salad yn tyfu’n gyflym a hyd yn oed yn tyfu’n ôl ar ôl i chi bigo rhai. Gallech chi hefyd glymu’r Cinio Mawr i mewn i’ch dysgu ar fwyta’n iach, o ble mae bwyd yn dod, neu sut i baratoi a choginio bwyd.

Os yw’r tywydd yn braf, ewch â’ch disgyblion allan am bicnic Cinio Mawr am ychydig o newid.

Arian

Gall y Cinio Mawr fod yn gyfle i godi arian ar gyfer eich ysgol, cynhyrchu arian ar gyfer eich prosiect diweddaraf, elusen o’ch dewis, neu hanfodion ar gyfer eich ysgol neu ddosbarth. Beth am ofyn i sefydliadau neu fusnesau lleol am gyfraniadau at eich Cinio Mawr? Isod mae rhai sefydliadau a allai helpu i ariannu eich Cinio Mawr neu brosiect.

Mae cynllun Bags of Help Tesco yn dyfarnu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n helpu’r gymuned, gan gynnwys cynnal digwyddiadau cymunedol

  • Mae cynllun Bags of Help Tesco – n dyfarnu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n helpu’r gymuned, gan gynnwys cynnal digwyddiadau cymunedol
  • Gronfa Loteri Fawr – sef ein prif ariannwr yma yng Nghymunedau’r Eden Project, yn ariannu sefydliadau sydd â syniadau sy’n dod â phobl ynghyd ac sy’n meithrin perthnasoedd cryf o fewn ac ar draws cymunedau

 

Gweithgareddau ac adnoddau addysgu

I gynnwys eich cymuned ehangach yn Y Cinio Mawr, beth am weld a oes unrhyw artistiaid, perfformwyr neu storïwyr lleol y gallwch eu gwahodd i gymryd rhan a darparu adloniant neu weithgareddau fel rhan o’ch diwrnod?