Skip to content

Sgons pwmpen cnau menyn, tsili a chaws cheddar Sumayah 

Yn arbennig ar gyfer The Big Lunch 2025, mae cystadleuydd Great British Bake Off, Sumayah Kazi, yn rhannu ei rysáit blasus ar gyfer sgons pwmpen cnau menyn, tsili a chaws cheddar.

Rysáit gan Sumayah Kazi

Diolch enfawr i Sumayah, o’r Great British Bake Off 2024, am rannu’r rysáit unigryw hwn gyda ni!

Meddai Sumayah:

“Mae’n wych cefnogi’r Cinio Mawr eleni gyda fy rysáit ar gyfer sgons pwmpen cnau menyn, caws cheddar a tsili. Fersiwn o glasur, mae’r sgons yma’n syml i’w gwneud, yn berffaith i’w rhannu ac yn llawn blas. Os nad ydych chi’n siŵr beth i ddod gyda chi i’ch Cinio Mawr, torchwch eich llewys a rhowch gynnig ar y sgons hyn – maen nhw’n siŵr o fod yn boblogaidd ymhlith eich cymdogion!”

Cynhwysion

Stars gif transparent background

Ar gyfer y sgons

50g pwmpen cnau menyn wedi’i goginio, wedi’u stwnsio’n fras

235g blawd plaen

3 lwy de o bowdwr codi

1/2 llwy de o halen

1 llwy de o bowdwr cwmin

1/4 llwy de o bowdwr nytmeg

2 lwy de o rosmari sych

1 llwy fwrdd o ddarnau bach o tsili

1/2 llwy de o baprica mwg

55g o fenyn di-halen, oer ac wedi’i dorri yn giwbiau

60g caws cheddar, wedi’i gratio

2 llwy fwrdd o saws Worcestershire

60ml o laeth

 

Topin

Llaeth ar gyfer brwsio

2 lwy fwrdd o hadau cwmin wedi’u tostio

30g caws cheddar, wedi’i gratio

Dull

 

Cam 1

Cynheswch y popty i ffan 220C a pharatowch silff bobi gyda phapur pobi

Cam 2

Mewn powlen o faint canolig, ychwanegwch y blawd, powdwr codi, halen, cwmin, nytmeg, paprica, darnau bach o tsili a rhosmari a’u cymysgu’n dda.

Cam 3

Ychwanegwch y ciwbiau o fenyn oer a’u rhwbio nhw i mewn i’r cymysgedd blawd gan ddefnyddio blaenau eich bysedd nes bod y menyn i gyd wedi cymysgu. Dylai’r blawd edrych yn debyg i friwsion bara mân. Yna ychwanegwch eich 60g o gaws.

Cam 4

Mewn powlen lai, cynheswch y llaeth yn y microdon am tua 30 eiliad. Ychwanegwch y piwrî cnau menyn a’r saws Worcestershire a’i gymysgu.

Cam 5

Ychwanegwch y cymysgedd cnau menyn at y blawd a defnyddio cyllell fenyn i gymysgu’r cynhwysion gwlyb i mewn i’r cynhwysion sych. Unwaith y byddant yn dechrau cyfuno defnyddiwch eich dwylo i blygu’r toes yn ysgafn i mewn i belen lyfn.

Cam 6

Rhowch y toes ar arwyneb gwaith wedi’i ysgeintio â blawd a rholiwch y toes yn 2 gylch, tua 1 modfedd o drwch.

Cam 7

Torrwch bob cylch yn 6 triongl cyfartal neu defnyddiwch dorrwr cwci i wneud cylchoedd.

Cam 8

Rhowch y sgons ar y silff bobi a’u brwsio’n ysgafn gyda llaeth. Ysgeintiwch weddill y caws a’r hadau cwmin dros y sgons.

Cam 9

Pobwch nhw am 14-15 munud neu nes bod y sgons yn frown euraid.

Cam 10

Tynnwch nhw o’r popty. Gallwch weini’r sgons yn gynnes neu’n oer a mwynhewch!


Yn ôl i’ch Pecyn y Cinio Mawr