Skip to content

Torth Lemon a Hadau Pabi gyda Hufen Mascarpone Lemon – gan Matty Edgell  

Yn unigryw ar gyfer Cinio Mawr 2024, mae Matty Edgell, enillydd Great British Bake Off, yn rhannu ei rysáit blasus ar gyfer torth hadau lemwn a phabi.

Matty Edgell

Rysáit gan Matty Edgell

Diolch yn fawr iawn i Matty, enillydd Great British Bake Off 2023, am rannu’r rysáit unigryw hwn gyda ni! Dywed Matty:

Rwy’n falch iawn o fod yn cefnogi’r Cinio Mawr eleni gyda fy rysáit ar gyfer cacen torth lemon a hadau pabi. Gyda lemon awchus ac eisin hufennog blasus, mae’n hawdd ei wneud ond yn siŵr o wneud argraff dda ar y cymdogion. Mae bob amser yn haws gwneud ffrindiau newydd dros damaid i’w fwyta felly beth am fynd ati i bobi hwn, ei rannu o gwmpas a mwynhau sgwrs yn eich Cinio Mawr eich hun?”

Cynhwysion

Stars gif transparent background

Sbwng
  • 225g blawd codi
  • 225g siwgr mân
  • 225g menyn di-halen
  • 4 ŵy maint canolig
  • 2 lwy fwrdd o hadau pabi
  • 2 lemon
Hufen Mascarpone Lemon
  • 200g o gaws mascarpone
  • 200g hufen dwbl
  • 1 llwy fwrdd o siwgr eisin
  • 2 lemon
Addurniadau
  • Croen candi
  • 1 llwy de o hadau pabi

Dull

 

1)

Cynheswch y popty i 165 gradd ac irwch a leiniwch eich tun torth 2 bwys.

2)

Corddwch y menyn a’r siwgr yn hufen tan eu bod yn ysgafn.

Ychwanegwch yr wyau un ar y tro, gan gyfuno’n dda cyn pob ychwanegiad – crafwch i lawr ochr y bowlen.

3)

Ychwanegwch y blawd a’i gymysgu nes ei hanner cyfuno. Nesaf, ychwanegwch yr hadau pabi ynghyd â chroen a sudd dau lemon.

4)

Cymysgwch yn dda i gyfuno’r cynhwysion yn llawn a rhowch y gymysgedd yn eich tun torth.

5)

Pobwch am 40-45 munud, neu nes bod sgiwer wedi’i fewnosod yn dod allan yn lân. Ar ôl ei bobi, gadewch iddo aros yn y tun am 5 munud cyn ei dynnu allan, yna’i drosglwyddo i silff oeri i oeri’n llwyr.

6)

I wneud yr hufen mascarpone lemon, dechreuwch trwy lacio’r caws mascarpone trwy ei gymysgu ychydig. Yna, mewn powlen, chwisgwch yr hufen a’r mascarpone yn gopaon meddal. Ychwanegwch eich siwgr eisin, croen dau lemon a sudd un. Chwisgwch nes i chi gael copaon maint canolig. Mae’n well gen i ddefnyddio chwisg llaw ar gyfer hyn, er mwyn peidio â gor-chwisgo’r cymysgedd.

7)

Unwaith y bydd wedi oeri’n llwyr, rhowch ar fwrdd gweini. Pibellwch yr hufen mascarpone ar ben y dorth neu jyst ei daenu ar y top.

8)

Gorffennwch gydag ychydig o groen candi a hadau pabi.