Fflapjacs mefus ac iogwrt – Joe Wicks
Mae’r fflapjacs hyn yn ddanteithion syml ac iach iawn. Perffaith ar gyfer bocs bwyd ysgol neu bicnic. Maent yn ddelfrydol fel byrbryd melys, ond hefyd yn fyrbryd sy’n eich llenwi ac sy’n darparu ffibr, brasterau iach a phrotein.
Cynhwysion
Yn gwneud 18
- 100g menyn almon neu fenyn cnau llyfn
- 100g o fêl meddal neu surop euraidd
- 2 lwy fwrdd o olew cnau coco
- 50g almonau mâl
- 200g o geirch mawr iawn
- 40g o hadau cymysg
- Pinsiad o halen
- 1 gwynnwy
- 90g mefus sych, wedi’u torri’n fras
- Y gorchudd iogwrt
- 50g siocled gwyn
- 1½ llwy fwrdd o olew cnau coco
- 2 lwy fwrdd o iogwrt naturiol
- 1 llwy de o sudd lemwn
Dull
1)
Cynheswch y popty i 200C/180C ffan. Leiniwch dun cacen 23cm sgwâr gyda phapur pobi.
2)
Toddwch y menyn almon neu gnau daear, mêl neu surop euraidd ac olew cnau coco gyda’i gilydd mewn sosban dros wres isel nes yn llyfn. Tynnwch oddi ar y gwres a chymysgwch yr almonau, ceirch, hadau a halen. Yn olaf, ychwanegwch y gwyn wy a’r mefus sych.
3)
Rhowch y cymysgedd yn y tun parod a’i wasgu i haen wastad. Pobwch am bum munud nes ei fod wedi’i osod o amgylch yr ymylon ond yn dal yn feddal.
4)
Tynnwch o’r popty a’i dorri’n 18 bar gyda chyllell finiog, yna gadewch iddo oeri’n llwyr.
5)
I wneud y gorchudd iogwrt, rhowch y siocled gwyn a’r olew cnau coco mewn powlen fach, gwrth-wres wedi’i gosod dros sosban fach o ddŵr sy’n mudferwi. Trowch y cyfan yn achlysurol nes ei fod wedi toddi, yna tynnwch oddi ar y gwres a gadewch iddo oeri am.
Step 6
Taenwch y gorchudd dros y bariau fflapjac a’i adael i setio. Storiwch mewn cynhwysydd aerglos am hyd at wythnos.