Cacen foron sgwâr
Rhowch naws fodern i’r hen ffefryn hwn a fydd yn bwydo’ch holl stryd! Jyst mor flasus (mwy fyth efallai), ond llawer haws…

Hefyd, mae’n hawdd rhannu’r gacen hon felly gallwch alw heibio eich cymdogion a mwynhau darn dros baned.
Cynhwysion
Ar gyfer y gacen
- 1 oren maint canolig
- 140g rhesins
- 125ml olew hadau rêp
- 115g blawd gwenith cyflawn plaen
- 1 llwy de o bowdwr codi, ynghyd â phinsiad
- 1 llwy de o soda pobi
- 1 llwy de gron o sinamon mâl
- 140g siwgr tywyll crai
- 280g o foron wedi’u gratio’n fân (tua 375-400g o foron cyn eu plicio)
- 2 ŵy
- 115g blawd codi
Ar gyfer yr eisin
- 100g o gaws ysgafn meddal, yn syth o’r oergell
- 100g o fenyn
- 3 llwy fwrdd o siwgr eisin wedi’i hidlo
- ½ llwy de o groen oren wedi’i gratio’n fân
- 1 ½ llwy de o sudd lemwn
Dull

1)
Cynheswch y ffwrn i 160C/ffan 140C/marc nwy 3. Irwch dun cacen sgwâr 20cm a’i leinio gyda phapur pobi. Ar gyfer y gacen, gratiwch groen yr oren a gwasgwch 3 llwy fwrdd o sudd. Arllwyswch y sudd dros y rhesins mewn bowlen, ychwanegwch y croen. Cymysgwch y cwbl a’i adael i socian.
2)
Cymysgwch y blawd gydag 1 llwy de o bowdwr codi, soda pobi a sinamon.
3)
Gwahanwch un o’r wyau. Rhowch y gwynnwy mewn bowlen fach a’r melynwy mewn bowlen fawr. Torrwch yr wy arall yn y bowlen gyda’r melynwy, yna ychwanegwch y siwgr. Chwipiwch hwn yn dda am 1-2 funud tan iddo droi’n gymysgedd tew ac ewynnog.
4)
Arllwyswch yr olew i mewn yn araf a pharhewch i chwipio ar gyflymder isel tan fod y cyfan wedi’i gymysgu’n dda. Tipiwch gymysgedd y blawd i mewn, hanner ar y tro, a’i gymysgu’n ysgafn i mewn i gymysgedd yr ŵy gyda sbatwla rhwber neu lwy fawr. Bydd y gymysgedd yn weddol anystwyth ond peidiwch â phoeni. Ychwanegwch y pinsiad o bowdwr codi gyda’r gwynnwy a’i chwipio i greu pigau meddal.
5)
Cymysgwch y moron a’r rhesins (ac unrhyw hylif) i mewn i gymysgedd y blawd. Cymysgwch y gwynnwy wedi’i chwipio i mewn yn ysgafn, yna arllwyswch hwn i mewn i’r tun. Rhowch ysgytwad da i’r tun er mwyn gwneud y gymysgedd yn wastad, defnyddiwch sbatwla i’w llyfnhau os oes angen.
6)
Pobwch y gymysgedd am 1 awr tan ei fod wedi codi neu tan fod sgiwer neu gyllell a roddwch yng nghanol y gacen yn dod allan yn lân. Gadewch i’r gacen oeri yn y tun am 5 munud, trowch hi allan ar rac weiar, tynnwch y papur i ffwrdd yn araf, a gadewch y gacen i oeri. Cymysgwch y caws meddal, y menyn, y siwgr eisin a chroen yr oren gyda’i gilydd – peidiwch â’i or-chwipio – ac yna ychwanegwch y sudd lemwn. Chwyrliwch yr eisin dros y gacen a’i thorri yn 16 sgwâr. Addurnwch y gacen fel y mynnwch i roi naws fodern iddi.