Skip to content

Cael cymorth gan y cyngor

Os ydych yn cynnal digwyddiad yn eich cymuned, gall fod yn syniad da cael y cyngor lleol ar eich ochr chi.

Os ydych yn cynnal digwyddiad yn eich cymuned, gall fod yn syniad da cael y cyngor lleol ar eich ochr chi. 

Bydd gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y cyngor o fudd i chi yn ystod y camau cychwynnol. Dylech fabwysiadu’r meddylfryd y bydd cael cefnogaeth y cyngor o fudd wrth wneud rhywbeth gweithredol yn y gymuned – wedi’r cyfan, y bobl sydd yn ei yrru yn ei flaen, nid cyllidebau’r cyngor! Cyfathrebwch â nhw mewn modd cyfeillgar (bydd cynnal perthynas dda gyda’r bobl iawn yn gwneud pethau’n haws yn y pen draw). Ceisiwch gadw’r wybodaeth sy’n hysbys i chi wrth law, a nodwch eich dymuniadau’n glir, i gyflymu prosesau a phenderfyniadau. 

Gallwch ofyn am gefnogaeth eich swyddog etholedig lleol hefyd. 

O bryd i’w gilydd bydd timau ‘cymunedau’ gan gynghorau lleol, ac os byddwch yn cysylltu â nhw i roi gwybod beth sydd ar y gweill, efallai bydd modd iddynt roi cymorth i chi. Weithiau bydd hyd yn oed cronfeydd bach o gyllid y gallwch eu defnyddio. 

Fodd bynnag, mae pob cyngor yn wahanol, a bydd eu cyfraniad a’u protocol yn amrywio yn ôl rhanbarth a gwlad. Ond bydd gwybodaeth ar gael ar wefan pob cyngorgallwch ddod o hyd i wefan eich cyngor lleol yn hawdd, trwy deipio cod post gyda GOV.UK neu ewch i restr A-Y o awdurdodau lleol.

Bicester-Mayor-and-Consort-Bicester

Os yw biwrocratiaeth yn brathu, ac rydych yn cael trafferthion gyda chyngor lleol wrth geisio trefnu prosiect neu ddigwyddiad, dyma rai dulliau a all helpu. 

Mae ysgrifennu llythyr yn ffordd wych o ddal sylw eich cynrychiolwyr etholedig lleol, gan fod gorfodaeth arnynt i ymateb i lythyrau gan eu hetholwyr. 

Gallwch ddarganfod pwy yw eich cynrychiolwyr etholedig trwy wefan Write to Them. Rydym o hyd yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’r adran gywir yn y cyngor yn gyntaf, ond os nad ydyn nhw’n gallu bod o gymorth, y cam nesaf yw gweld a fydd eich cynghorydd lleol yn gallu gwneud rhywbeth. Y peth allweddol yw nodi eich dymuniadau yn eglur, sut gallan nhw fod o gymorth ac erbyn pryd. Os ydych chi’n teimlo’n ddewr, gallwch fynd i un o’u cymorthfeydd – dyna yw eu bwriad nhw! 

Os ydych chi wedi profi trafferthion dechreuol wrth gynllunio eich digwyddiad, neu os oes angen help arnoch i gael cymorth lleol, gallwch hefyd gysylltu â ni a rhwydwaith ehangach Cymunedau Eden Project am ragor o gymorth neu gyngor. 

Chwiliwch am eich cyngor lleol ar y cyfryngau cymdeithasol; gallwch eu cyfeirio at ddigwyddiadau a gweithgareddau trwy eu tagio neu adael sylwadau, pan fydd hynny’n briodol. 

Gweld holl ganllawiau’r Cinio Mawr