Cael caniatâd i dynnu lluniau a fideo
Os ydych yn tynnu unrhyw luniau neu fideos o’ch prosiect i’w rhannu â’r cyhoedd neu unrhyw drydydd parti, rhaid cael caniatâd ysgrifenedig gan bawb sy’n ymddangos ar ffilm.
![Woman taking a picture with flash](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/02/Film-and-Photography-consent-Eden-Project-Communtiies.jpg)
Dosbarthwch bosteri
Argraffwch y ffurflen isod (a rhoi eich manylion cyswllt a’ch logo eich hun os dymunwch hynny) a’i ddosbarthu o gwmpas eich digwyddiad, fel bod pobl yn gwybod bod lluniau a fideo’n cael eu tynnu.
Argraffu ffurflenni caniatâd
Defnyddiwch y ffurflenni isod i gasglu llofnodion gan bobl os ydynt yn cytuno i fod yn eich ffilmiau neu’ch lluniau. Os oes yn well ganddynt beidio, bydd angen i chi geisio eu hosgoi wrth gymryd lluniau o grwpiau.
Mwy fel hyn
![Woman pushing trolley with cardboard box](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/02/Eden-Project-Communities-Assess-health-and-safety1000px-640x426.jpg)
Asesu iechyd a diogelwch
Efallai bydd rhai cynghorau’n gofyn i chi wneud asesiad risg. Dyma ffurflen syml i’ch helpu i ddechrau arni.
![Boys running with a football, boy carrying road closed ahead sign](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2023/02/Eden-Project-Communities-The-Big-Lunch-close-your-road-640x439.jpg)
Cau ffordd
Os ydych yn awyddus i gynnal parti stryd (neu Ginio Mawr!) ac mae angen i chi gau’r ffordd, dylech holi eich cyngor am hyn…
![Pentwr o blatiau mewn siop elusen gydag arwydd 'Perffaith ar gyfer Y Cinio Mawr' ar ei ben.](https://www.edenprojectcommunities.com/wp-content/uploads/2022/05/JS-Manchester-21-640x427.jpg)
Cynhaliwch Ginio Mawr mwy cynaliadwy
Syniadau da ar uwchgylchu, bwyd dros ben gwych a rhannu cymunedol.