Skip to content

Syniadau calan gaeaf eco-gyfeillgar

Rydym wrth ein boddau gyda Chalan Gaeaf - o addurniadau creadigol i ysbryd cymunedol ac, wrth gwrs, y losin! Gall hefyd fod yn achlysur gwastraffus: gyda gwisgoedd rhad sy'n cael eu gwisgo unwaith, addurniadau tafladwy a phapurau losin plastig.

Ond, gyda phinsiad o greadigrwydd ac ychydig gynllunio, gallwch wneud eich dathliadau yn fwy caredig i’r blaned heb golli unrhyw ran o’r hwyl. 

Rydym wedi rhoi rhai awgrymiadau at ei gilydd am Galan Gaeaf Gwyrdd ac i ddod â’ch cymuned at ei gilydd fis Hydref. 

Halloween biscuits

Gwnewch eich danteithion eich hun

Mae creu eich danteithion eich hun yn weithgaredd hwylus i’ch paratoi ar gyfer Calan Gaeaf tra hefyd yn lleihau gwastraff plastig defnydd untro. Beth am ddefnyddio hoff rysáit a’i addasu gyda thema Calan Gaeaf?

Beth am drawsnewid ein pobl sinsir Nadoligaidd yn Sombïs, neu ddefnyddio torrwr bisgedi gwahanol siâpbyddai ystlum brawychus neu bwmpen yn edrych yn wych. Neu beth am gadw pethau’n syml gyda theisennau cwpan popty ping, brownis gludiog, neu gwcis siocled triphlygaddurnwch nhw gydag eisin oren a du, neu gydag wynebau brawychus hyd yn oed!

Os ydych chi’n rhoi eich danteithion cartref i eraill, sicrhewch eich bod yn eu pecynnu ar wahân i’w cadw’n ddiogel ac i atal pobl rhag cyffwrdd mwy nag un. 

Three dogs wearing sheets that make them look like ghosts, with a pumpkin in front of them

Gwnewch eich gwisg ffansi eich hun

Byddwch yn greadigol gyda’ch gwisg! Beth sydd gennych chi yn eich cwpwrdd dillad y gallwch roi pwrpas newydd iddo?

Mae’n bosib bod gennych chi hen gynfas gwely llawn tyllau y gellid ei drawsnewid yn ysbryd neu doga!

Mae siopau elusennau’n lleoedd perffaith i ddod o hyd i eitemau ychwanegolbyddant yn rhatach ac yn fwy caredig i’n planed, gan roi bywyd newydd i hen ddillad. 

bat made from egg box

 

halloween_pumpkin_dogs.png

Crëwch eich addurniadau eich hun

Yn hytrach na thaflu addurniadau plastig ar ôl eu defnyddio unwaith, beth am fod yn greadigol a gwneud eich rhai eich hun! Mae crefftau ar thema Calan Gaeaf yn weithgaredd gwych i ddod â phobl at ei gilydd.

Beth am dorri bocsys wyau yn dri stribyn, eu peintio’n ddu ac ychwanegu llygaid gŵgli i greu ystlumod crog.

Crëwch eich addurniadau eich hun o ddail hydrefol sydd wedi cwympo, neu beth am lusernau helyg brawychus trawiadol i oleuo eich dathliadau!

Gwnewch fwy na cherfio eich pwmpen! Coginiwch hi hefyd.

O gyris, cawl a phasteiod, i hufen iâ, myffins, bariau byrbrydau a hyd yn oed cwrw, mae llawer o ffyrdd diddorol o ddefnyddio’ch bwmpen ar ôl Calan Gaeaf eleni! 

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am Galan Gaeaf Gwyrdd? Buasem wrth ein boddau yn eu clywed Cysylltwch â ni gyda’ch hoff awgrymiadau a syniadau eco-gyfeillgar. 

Eisiau rhagor o syniadau cynaliadwy? Ymunwch yn ein Gŵyl Ddarganfod ym mis Tachwedd, lle byddwn yn archwilio’n pethau gallwn eu gwneud Gyda’n Gilydd dros ein Planed.