Skip to content

Wyth ffordd o fwynhau ein syniadau i ychwanegu cynhesrwydd at y gaeaf mewn ysgolion 

Syniadau hawdd, rhad ac am ddim ar gyfer y gaeaf i athrawon er mwyn lledaenu llawenydd mewn ysgolion dros yr ŵyl.

Llwybrau cerdded gaeafaidd

Ewch am dro ym myd natur o amgylch yr iard chwarae, tir yr ysgol neu’r ardal leol. Sylwch ar fyd natur gan ddefnyddio canllawiau Coed Cadw isod ac anogwch chwilota dethol (dim gormod o’r un lle) i gasglu eitemau i wneud creadigaeth ryfeddol o wyllt, gan ddefnyddio ein cynllun gwers ac adnoddau.

 

Bws cerdded gaeafaidd

Efallai bod hi’n oer y tu allan ond mae cael y plant i wisgo’n gynnes a cherdded i’r ysgol yn lle gyrru neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd wych o leihau llygredd aer. Yn ogystal â helpu i gynnal ffordd iach o fyw a mwynhau’r manteision a ddaw yn sgil amser y tu allan yn ystod misoedd y gaeaf. Anogwch deuluoedd a gwahanol aelodau o gymuned yr ysgol i ddod at ei gilydd gyda’n cynghorion ar gyfer creu bws cerdded.

Cychwynnwch fws cerdded

 

Creadigaethau Rhyfeddol o Wyllt: Cynllun gwers ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1

Defnyddiwch ein cynllun gwers i helpu plant ifanc i archwilio’r cysyniad o ddathlu tra’n arbrofi gyda’r lliwiau, gweadau, patrymau, siâp a ffurfiau sy’n digwydd ym myd natur yn y gaeaf. Wedi’u hanelu at EYFS a CA1, mae’r gweithgareddau’n drawsgwricwlaidd ac yn cynnig ymagwedd seiliedig ar chwarae at addysgu ac yn rhoi cyfle gwych i chi gysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â dysgu yn yr awyr agored!

Cymerwch olwg ar y cynllun gwers  

 

Dweud shw mae ‘da mins pei

Rhowch gyfle i rieni gysylltu a dweud shw mae ‘da mins pei – pennwch ychydig amser ar ôl perfformiadau’r Nadolig i rannu mins pei a diod gynnes. Neu dewch â’r tîm staff ynghyd i fwynhau danteithion wedi’u pobi a chymryd eiliad allan o’r prysurdeb yn arwain at y Nadolig.

 

Trefnwch Ginio Mawr adeg Dolig

Mae llawer o ysgolion yn cymryd rhan yn Y Cinio Mawr bob blwyddyn yn ystod tymor yr haf, ond nawr gallwch chi ymuno am ychydig o hwyl yr ŵyl hefyd! Defnyddiwch ein hadnoddau rhad ac am ddim, gan gynnwys Bingo Pobl a thempled cracers i ddod â’ch disgyblion a chymuned yr ysgol at ei gilydd ym mis Rhagfyr – ac anogwch blant hŷn i fynd â’r syniad adref i’w stryd hefyd.

Y Cinio Mawr adeg Dolig

 

Cloddfa’r Gaeaf

Mae plannu bylbiau, blodau gwyllt, llysiau a choed yn ffordd wych o godi calon eich ysgol a helpu plant i gysylltu â natur a’i gilydd. Does dim angen cymaint o le ag y byddech chi’n ei feddwl, a gallwch chi ailddefnyddio pob math o gynwysyddion i gadw’r gost i lawr – pethau megis esgidiau glaw, hen esgidiau, potiau cegin a sosbenni, unrhyw beth y gellir ei ail-bwrpasu fel plannwr! Darganfyddwch ein hawgrymiadau gwych ar sut a beth i blannu i fywiogi eich ysgol.

Beth i’w blannu i fywiogi’ch cymuned

 

Ffenestri Nadoligaidd

Gwahoddwch bob dosbarth i addurno ffenestr, wal neu ofod yn yr ysgol gyda thema aeafol neu Nadoligaidd. Gellid datgelu arddangosfeydd yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig neu i gyd ar unwaith a’u defnyddio i greu llwybr.

Creu ffenestri adfent hudol

 

Adfent o Chwith

Adeiladwch hamper Nadolig dros gyfnod yr Adfent (EN) i’w roi i fanc bwyd cymunedol, cartref gofal lleol neu elusen. Gofynnwch i’r plant ddod ag un peth i mewn i’w gyfrannu, os gallant, dros y cyfnod i ddangos y budd o gydweithio i greu rhywbeth hyfryd, a phwysigrwydd rhannu caredigrwydd i eraill yn y gymuned ehangach.