Skip to content

Mae cynghorau a chyrff tai yn chwarae rhan enfawr wrth greu a meithrin cymunedau cryf, cysylltiedig – felly hefyd Y Cinio Mawr. Gyda manteision fel cymdogaethau mwy diogel, llai o arwahanrwydd cymdeithasol a mwy o falchder dinesig, gall Y Cinio Mawr helpu i leddfu’r pwysau ar rannau eraill o’r cyngor hefyd.

Gall cefnogi a galluogi trigolion i gymryd rhan ac annog mwy o bobl i ymuno â’r Cinio Mawr arwain at hwb mewn gwirfoddoli lleol, ymgysylltu a mwy o ymdeimlad o berthyn – gan greu buddion parhaol i’r gymuned.

Mae cymryd rhan yn syml

Ailchwaraewch ein gweminar i ddysgu sut mae’r Cinio Mawr yn cefnogi cymdogaethau mwy diogel, iachach a mwy cydlynol. Neu edrychwch ar ein hadnoddau defnyddiol am bopeth sydd angen i chi ei wybod i ddechrau.

Gwyliwch weminar Adeiladu Cymunedau Cryfach gyda’n gilydd (yn Saesneg)

Lawrlwythwch y cyflwyniad

Mae Hammersmith & Fulham yn gwbl gefnogol i’r Cinio Mawr oherwydd ei fod yn cyd-fynd â llawer o werthoedd y cyngor, megis annog balchder dinesig, gwneud pethau ‘gyda thrigolion’ nid ‘i drigolion’ a bod yn gyngor tosturiol.

Pam fod y Cinio Mawr yn bwysig i gymunedau

0 %

o’r trefnwyr ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned

0.00 miliwn

o bobl yn llai unig o ganlyniad

0 %

fod costau byw cynyddol yn golygu bod Y Cinio Mawr yn bwysicach nag erioed


Pethau y gallwch chi eu gwneud

1) Gwahoddwch bobl i ymuno

Lledaenwch y gair trwy rannu’r syniad â phobl berthnasol, megis timau cymunedau, cymdogaethau, priffyrdd, tenantiaeth a chynnwys cwsmeriaid ac amrywiaeth. Anogwch nhw i wahodd trigolion, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn eich ardal i gymryd rhan yn Y Cinio Mawr.

I helpu:

  • Cofrestrwch eich cefnogaeth a byddwn yn anfon pecyn cymorth hyrwyddo rhad ac am ddim atoch!
  • Cyfeiriwch bobl at ein pecyn Cinio Mawr rhad ac am ddim – mae’n llawn awgrymiadau ac adnoddau i helpu trefnwyr y Cinio Mawr
  • Hoffwch, dilynwch a rhannwch ni ar gyfryngau cymdeithasol fel y gallwch chi roi’r newyddion diweddaraf i’ch cymunedau am y Cinio Mawr – fe welwch ni @edencommunities ar draws sianeli cymdeithasol

2) Cynhaliwch ddigwyddiad yn eich cymuned

Mae llawer o gynghorau a chymdeithasau tai yn cynnal eu digwyddiadau Cinio Mawr eu hunain, yn ogystal ag annog trigolion i drefnu rhai eu hunain. Mae’n wych ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned ac annog cynhwysiant.

Bydd ein pecyn ac adnoddau digidol rhad ac am ddim yn eich helpu i drefnu digwyddiad ar gyfer eich preswylwyr, ar amser sy’n gyfleus i chi yn ystod Mis y Gymuned.

Cynhaliodd Cyngor South Willesborough and Newtown barti stryd cymunedol gyda’r nifer uchaf erioed o drigolion lleol yn mynychu. A allai eich cyngor wneud rhywbeth tebyg?

3) Lleihewch fiwrocratiaeth ar gyfer cau ffyrdd

Os ydych chi’n gyngor, mae lleihau biwrocratiaeth ar gyfer cau ffyrdd yn ffordd wych o alluogi a chefnogi pobl i gynnal Cinio Mawr.

Mae’n bosibl y bydd rheolwyr traffig a thimau priffyrdd cynghorau yn derbyn mwy o geisiadau i gau ffyrdd dros dro ar gyfer penwythnos Y Cinio Mawr (7-8 Mehefin). Rydym yn argymell bod trefnwyr digwyddiadau yn adolygu ein canllawiau cau ffyrdd ac yn estyn allan at eu cyngor lleol cyn gynted â phosibl i sicrhau proses gymeradwyo llyfn ac osgoi unrhyw oedi.

Helpwch i leihau rhwystrau i bartïon stryd Y Cinio Mawr trwy:

  • darparu canllawiau clir a ffurflenni syml ar gyfer ceisiadau i gau ffyrdd
  • cyhoeddi dyddiadau cau ceisiadau yn gynnar ac ar draws eich holl gyfathrebiadau perthnasol
  • grwpio ceisiadau lluosog gyda’i gilydd dan un gorchymyn rheoli traffig os yn bosib
  • darparu grantiau ar gyfer cymunedau sy’n methu fforddio’r gost, neu roi trefnwyr mewn cysylltiad â busnesau lleol y gallai fod yn fodlon rhoi cefnogaeth

4) Talwch gost yr yswiriant

Os ydych yn argymell bod trefnwyr partïon stryd yn cymryd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a allech chi helpu gyda’r costau?

Yn 2022 a 2023, bu Cyngor Dinas Portsmouth yn gweithio gyda ni a’n partneriaid yswiriant Creative Risk i drefnu a thalu am yswiriant cyffredinol ar gyfer partïon stryd ledled y ddinas. Mae croeso i chi gael sgwrs gyda ni os hoffech chi ddarganfod mwy.

Cysylltwch

street with bunting

Cynghorau serennog

Bob blwyddyn, mae cefnogaeth y cyngor yn parhau i annog cyfranogiad yn Y Cinio Mawr ac yn helpu digwyddiadau i redeg yn llyfn – diolch. Mae ein rhestr o Gynghorau Serennog yn cydnabod yr ymdrech anhygoel a wneir gennych i helpu eich cymunedau i gymryd rhan.

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich cynlluniau ar gyfer cefnogi’r Cinio Mawr – rhowch wybod i ni wrth gofrestru diddordeb eich cyngor.

Cofrestrwch eich cyngor (EN)

Cefnogaeth benodol i bob gwlad

 

Mae’r Cinio Mawr a Mis y Gymuned yn dod â chymunedau at ei gilydd ar draws y DU gyfan. Os hoffech chi gael sgwrs am gyfranogiad a chefnogaeth sy’n benodol i’ch gwlad, cysylltwch â’n Rheolwyr Gwlad – byddant yn hapus i helpu!

Cysylltwch â Lowri ar gyfer Cymru