A community street party

Beth am ginio

Mae ymhell dros filiwn o ddigwyddiadau Cinio Mawr wedi bod ers iddynt ddechrau yn 2009. A, gan eu bod yn digwydd ledled y DU, mae’n siŵr y bydd rhywbeth yn digwydd yn eich ardal chi.

Porwch ein map Cinio Mawr i ddarganfod beth sy’n digwydd, neu rhestrwch eich Cinio Mawr eich hun!

Porwch ein map Cinio Mawr

Illustrative bunting string in teal and navy blue.
bunting two
Group of people outside having lunch surrounded with British flags

Cinio Mawr y Coroni

Gan feddwl am ddigwyddiadau, does dim byd llawer mwy na choroni brenhines newydd. Rydym yn gyffrous i fod yn rhan o’r dathliadau swyddogol a byddem wrth ein bodd pe bai pobl ledled y DU (a’r byd!) yn cynnal Cinio Mawr y Coroni i ddathlu.

Cymerodd miliynau o bobl ran yng Nghinio Mawr Jiwbilî, i ddathlu Jiwbilî Blatinwm ein diweddar Frenhines.

Archebwch eich pecyn Cinio Mawr y Coroni am ddim (EN)

“Ar unwaith, roeddwn i’n gwybod ei fod yn syniad gwych. Rydyn ni’n byw mewn clos lle nad oedd pobl wir yn adnabod ei gilydd… siarad â’ch cymdogion yw’r peth pwysig. Wedyn, gallwch chi weld y pethau gwych sy’n dod o hynny.”

Lynda, Essex

Map y Cinio Mawr

Mae ymhell dros filiwn o ddigwyddiadau Cinio Mawr wedi bod ers iddynt ddechrau yn 2009. A, gan eu bod yn digwydd ledled y DU, mae’n siŵr y bydd rhywbeth yn digwydd yn eich ardal chi. Rhowch eich cod post i ddod o hyd i’ch Cinio Mawr agosaf.

Os ydych chi’n cynnal digwyddiad, rhowch ef ar y map trwy lenwi ein ffurflen gyflym (EN).

Filter by: