Skip to content

Creu ffilm

Mae ffilmio prosiect neu ddigwyddiad yn ffordd wych o rannu’r profiad o fod yn rhan ohono. Dyma ein hargymhellion.

Mae gan y mwyafrif ohonom gamerâu fideo ar ein ffonau symudol, felly mae’n haws nag erioed i gofnodi’r eiliadau gwerthfawr. Ar ôl dros bum mlynedd o ffilmio mewn Ciniawau Mawr a digwyddiadau eraill i Gymunedau Eden Project, mae Sound View Media yn awr yn rhannu eu hargymhellion am sut i wneud eich ffilm yn werth ei rhannu.

 

Meddwl o flaen llaw

Cyn ichi ddechrau, meddyliwch am beth ydych chi eisiau ei ffilmio. Mae’n hawdd ffilmio golygfeydd ar hap heb ddal yr hyn rydych chi eisiau.

 

Fframio

Meddyliwch am ffrâm y fideo a beth ydych chi eisiau ei gyfleu. Sut gallwch wneud pethau’n fwy diddorol? 

 

Aros yn llonydd

Mae cael fideo heb siglo yn allweddol; meddyliwch am ffyrdd o sicrhau bod y camera yn llonydd.   

 

Pwyll piau hi!

Cadwch y camera ar yr olygfa, a sicrhewch eich bod yn aros ar yr hyn rydych yn ei ffilmio am ddigon hir. Bydd hyn yn teimlo fel amser hir ar y pryd, ond pan fyddwch yn edrych yn ôl ar y fideo, efallai na fydd yn ddigon hir. Beth am gyfri i ddeg? 

 

Tawelwch

Cofiwch am y sŵnsicrhewch eich bod mewn amgylchedd tawel ac yn agos at yr hyn rydych yn ei ffilmio. 

 

Goleuo

Byddwch yn ymwybodol o amodau’r golau. Os yw hi’n dywyll, ydych chi’n gallu ychwanegu golau? Byddwch yn ofalus wrth ffilmio mewn golau uniongyrchol, gan y bydd hynny’n creu cysgodion. =

 

Mwynhewch y cyfan

Mae creu ffilmiau yn hwyl! 

 

Perchnogaeth

Peidiwch ag anghofio cael y caniatâd perthnasol gan bawb sy’n cymryd rhan. Dyma ein templed ffurflen ganiatâd ddefnyddiol.  

Gweld holl ganllawiau’r Cinio Mawr