Skip to content

Trefnwch orymdaith llusernau

Mae gorymdeithiau llusernau yn syniad gwych am ddigwyddiad sy’n cadw’r syniad o ysbryd cymunedol i fynd yn ystod misoedd oer y gaeaf.

Yn wahanol i nosweithiau tân gwyllt, sydd fel arfer yn gofyn am leoliad eang yn yr awyr agored, swm sylweddol o arian a rhywfaint o arbenigedd, mae gorymdaith llusernau yn cynnig llawer o gyfleoedd i gyfrannu, a gall pawb gymryd rhan os ydych yn trefnu eich llwybr yn ofalus.

 

Beth fydd ei angen arnoch

  • Llwybr ar gyfer eich gorymdaith. Cadwch y cyfan yn fyr ac yn syml, ac ewch ar hyd y brif stryd os gallwch chi, er mwyn i gymaint o bobl â phosibl eich gweld. Yr hyn rydych chi eisiau ei weld yw strydoedd llawn gyda digon o awyrgylch, nid llinell denau milltiroedd o hyd. Bydd hyn hefyd yn helpu’ch gorymdaith i aros gyda’i gilydd. 
  • Sgwrs gyfeillgar â’r cyngor i weld a oes angen caniatâd i gau unrhyw heolydd ar hyd y llwybr. Bydd angen ychydig o help i reoli traffig yn ystod yr orymdaith, o leiaf. 
  • Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae gorymdeithiau llusernau fel arfer yn weddol ddiogel, ond bydd angen i chi ystyried asesiad risg ac yswiriant, rhag ofn y bydd rhywun yn cynnau eu gwallt ar dân neu’n syrthio. Yn gyntaf oll, gwiriwch a fyddwch yn cael eich yswirio gan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yr awdurdod lleol pan rydych yn siarad â’r cyngor. 
  • Cyllid neu nawdd. Ewch at y gymuned fusnes i weld a fyddant yn fodlon noddi’r digwyddiad – gallai roi’r hwb sydd ei angen arnynt dros gyfnod y Nadolig. 
  • Rhywle i greu’r llusernau. Bydd angen brigau helyg (gallwch brynu’r rhain o siop nwyddau adeiladu), papur tisiw cryf, glud, a naill ai golau nos neu oleuadau LED wedi eu profi gan PAT ar linyn, neu fflach lamp ysgafn. Edrychwch ar ganllawiau creu lluserni Liskeard Lights Up a Welfare State International. Peidiwch â gwneud y llusernau’n fwy na’r drws, neu bydd eich gorymdaith yn un byr iawn – at y drws ac yn ôl! Os yw hyn yn ymddangos yn rhy anodd, gallwch ddod o hyd i artist i gynnal dosbarthiadau creu llusernau i bawb. 
  • Grŵp cerddorol (band pres, samba neu ddrymio). Bydd unrhyw beth swnllyd heb drydan yn gwneud y tro. Fel arall, efallai bydd eich gorymdaith yn debycach i wylnos. 
  • Ffotograffydd – o’r papur newydd lleol, ond os gallwch ei fforddio, talwch ffotograffydd proffesiynol, neu o leiaf rhywun sy’n gallu tynnu lluniau da mewn goleuni isel. Bydd y lluniau hyn yn rhoi deunydd hyrwyddo gwych i chi ar gyfer y flwyddyn ganlynol. 
Lanterns
The Eden Project 5th December 2008 Photographer: Sophia Milligan

Cyfarwyddiadau 

 

1) Penderfynwch ar ddyddiad 

Edrychwch ar-lein i weld pryd fydd hi’n tywyllu ar y diwrnod hwnnw, a chynlluniwch eich amserlen o gwmpas hynny 

 

2) Lluniwch lwybr 

Cerddwch y llwybr yn araf i weld os oes modd i bawb fynd ato. Ceisiwch osgoi bryniau serth iawn os gallwch chi, a sicrhewch fod digon o le yn y mannau ymgasglu a gorffen. 

 

3) Cysylltwch â’r cyngor 

Cysylltwch â’r cyngor er mwyn cael trefn ar y gwaith papur a’r yswiriant angenrheidiol. 

 

4) Dyluniwch ac adeiladwch eich llusernau

Dim ond mynd am dro yn y tywyllwch yw gorymdaith llusernau heb lusernau, felly’r cam nesaf yw dylunio a chreu’r llusernau. 

 

5) Hysbysebwch y dyddiad 

Hysbysebwch y dyddiad. Pan fyddwch wedi cytuno ar ddyddiad yr orymdaith, dywedwch wrth bawb, defnyddiwch gylchlythyron, papurau newydd lleol a’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges. Rhowch daflenni trwy flwch llythyrau unrhyw un sy’n byw ar hyd y llwybr a gofynnwch i fusnesau ar hyd y llwybr i roi taflen neu boster yn y ffenest.

 

6) Gofynnwch i’r ysgol leol gymryd rhan

Pam na wnewch chi ofyn i ddwy ysgol? Mae ychydig o gystadleuaeth yn beth da weithiau. 

 

7) Bwyd a diod

Trefnwch fwyd a diod (a thai bach os gallwch chi) ar ddiwedd y llwybr. Gall hyn fod mor syml â barbeciw mawr (a chyfle da i wneud arian ar gyfer y flwyddyn ganlynol) neu gallwch ofyn i werthwyr bwyd symudol ddod. Gwnewch yn siŵr bod digon o olau yn y lleoliad, ac os oes plant ysgol yn cymryd rhan, gwnewch hi’n hawdd i’w rhieni ddod o hyd iddynt, trwy benodi man ymgasglu i athrawon. 

 

8) Cyhoeddwch ddigwyddiad y flwyddyn ganlynol

Dywedwch wrth bawb ei fod yn digwydd unwaith eto’r flwyddyn nesaf, a dyna ddechrau traddodiad newydd sbon…