
Sut i gynyddu eich cylch dylanwad
Mae gan bob un ohonom y pŵer i ddylanwadu ar eraill – i helpu i ddod â newid cadarnhaol. Y pethau rydyn ni’n eu dweud ac yn eu gwneud, beth rydyn ni’n penderfynu gwario ein harian arno, yr ymgyrchoedd rydyn ni’n eu cefnogi, ble rydyn ni’n taro ein pleidlais… mae llawer o ffyrdd y gallwch gynyddu eich dylanwad i’r eithaf a chynyddu eich cyrhaeddiad.
Gallwch gymharu eich gallu i ddylanwadu â’r cylchoedd sy’n ymddangos pan fyddwch yn gollwng carreg i bwll o ddŵr – mae’r cylchoedd yn lledaenu ac yn cyrraedd yn bell o’r man lle cafodd y garreg ei gollwng. Trwy gydnabod eich cylch dylanwad, gallwch ddod o hyd i ffyrdd i gyrraedd cynulleidfaoedd ac unigolion newydd a all eich helpu gyda’ch prosiectau a’ch syniadau, fel bod modd i chi dargedu eich ymdrechion yn y cyfeiriad iawn.
Rhowch gynnig ar archwilio eich cylch dylanwad eich hun, trwy wneud yr ymarfer cyflym canlynol.
Beth fydd ei angen arnoch
- Paned a chacen – hanfodol ar gyfer canolbwyntio!
- Darn mawr o bapur
- Darn o bapur dargopïo
- Dau feiro mewn lliwiau gwahanol
Dechreuwch trwy feddwl am y tri pheth canlynol
- Beth yw eich cylch dylanwad ar hyn o bryd? Pwy a beth ydych chi’n dylanwadu arno?
- Nawr, meddyliwch am beth fyddech chi’n hoffi eich cylch i fod. Sut fyddech chi’n hoffi cynyddu eich dylanwad a pham?
- Ac, i gloi, meddyliwch am y rhwystrau presennol posibl i wireddu hyn.
1) Llunio eich cylchoedd
Cymerwch eich papur ac un o’r beiros a, gan ddychmygu mai chi yw’r garreg ynghanol y cylchoedd, lluniwch eich cylch dylanwad presennol.
2) Ychwanegu enwau
Gan ddefnyddio’r cylchoedd, ychwanegwch enwau pobl a sefydliadau o fewn eich cylch a’u nodi yn agos atoch chi lle mae gennych lawer o ddylanwad (er enghraifft, teulu a ffrindiau), ac yn bellach i ffwrdd ohonoch lle mae eich dylanwad yn llai cryf (cyngor lleol neu gorff llywodraethol, efallai).
3) Dangos ble a sut
Gan ddefnyddio’r lliw arall, lluniwch ble a sut fyddech chi’n hoffi gweld eich dylanwad yn cynyddu. Pwy ydych chi’n ei adnabod yn dda, a all eich helpu i ddylanwadu ar rywun arall? Pwy fyddech chi’n hoffi ei gyrraedd, ond nad oes gennych ffordd o wneud hynny ar hyn o bryd?
4) Dargopïo’r rhwystrau
Nawr, gosodwch y papur dargopïo dros eich diagram a sylwch ble rydych chi’n gweld rhwystrau posibl i’ch cynnydd. Ai’r broblem yw nad ydych yn gwybod sut i gael at rywbeth neu rywun, neu nad ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i allu gwneud hynny…?
5) Goresgyn y rhwystrau
Meddyliwch am sut gallwch oresgyn y rhwystrau hyn ac ysgrifennwch hyn ar y papur dargopïo. Gall hyn olygu ymuno â grŵp newydd, ysgrifennu llythyr, neu rywbeth mor syml â bod yn ddigon dewr i ofyn rhywbeth i rywun.
Efallai byddwch yn gweld bod cadw’r taflenni hyn yn ddefnyddiol, a chyfeirio yn ôl atynt yn y dyfodol i asesu pa gynnydd rydych chi wedi ei wneud.
Meddyliwch am sut gallwch oresgyn y rhwystrau hyn ac ysgrifennwch hyn ar y papur dargopïo. Gall hyn olygu ymuno â grŵp newydd, ysgrifennu llythyr, neu rywbeth mor syml â bod yn ddigon dewr i ofyn rhywbeth i rywun.