Sefydlwch sinema gymunedol
Mae sinemâu cymunedol yn cynnig ffordd anffurfiol o ddod â phobl ynghyd. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle gwych i dalentau creu ffilmiau lleol.

Gall fod mor syml â chynnal un noson ffilm awyr agored ar noswaith o haf, neu ddigwyddiad rheolaidd mewn lleoliad lleol. Roedd gan bob cymuned, y rhai bach a mawr, eu sinema eu hunain ar un adeg. Yn ffodus, gall sinemâu cymunedol lenwi’r bwlch hwn, a chynnig ystod o ffilmiau na fydd eich sinema agosaf yn gallu eu cynnig.
Beth fydd ei angen arnoch
- Rhywle i ddangos eich ffilmiau. Os yw’n haf poeth, gyda nosweithiau cynnes, sych, gallwch roi dalen wen a thaflunydd mewn parc lleol. Os yw’n aeaf (neu yn haf arferol ym Mhrydain) ewch i rywle dan do gyda digonedd o gadeiriau a ffenestri y gallwch eu tywyllu. Y newyddion da yw bod newid yn y Ddeddf Trwyddedu yn golygu nad oes angen trwydded safle arnoch i ddarlledu ffilmiau bellach, os yw’r ffilm yn cael ei dangos nid er elw rhwng 8.30yb ac 11.00yh. Fodd bynnag, bydd angen trwydded hawlfraint ar gyfer y ffilm – darllenwch ymlaen…
- System sain a thaflunydd. Mae’r rhain yn gallu bod ychydig yn ddrud, ond efallai bod gan eich ysgol leol un y gallwch ei fenthyg, neu gallwch eu llogi, a’u prynu pan fyddwch wedi gwerthu digon o docynnau.
- Seddi o ryw fath. Clustogau i atal pobl rhag colli teimlad yn eu penolau. Blancedi rhag ofn iddi oeri.
- Pobl i werthu tocynnau a bwyd a diod.
- Tocynnau – bydd tocynnau raffl yn gwneud y tro. Bydd hyn yn eich helpu i gyfri faint o bobl sy’n dod, sy’n ddefnyddiol i iechyd a diogelwch.
- Fflach lamp i ddangos pobl i’w seddi.
- Dewis o ffilmiau, gan gynnwys trwydded i’w dangos. Mae Filmbankmedia yn fan dechrau da. Neu gallwch ddewis ymuno ag Open Cinema, sy’n eich galluogi i ddewis o’u casgliad eang o ffilmiau am bris – a gallwch hyd yn oed restru eich digwyddiad ar eu gwefan.
- Deunydd marchnata – posteri, cardiau post, tudalennau Facebook … unrhyw beth fydd yn lledaenu’r gair.
- Cynllun busnes. Bydd pob dim heblaw am y bobl yn costio arian, felly rhaid i chi sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu am bob dim. Mae gwefan The British Federation of Film Societies (BFFS) yn dda ar gyfer hyn.

Cyfarwyddiadau
1) Dosbarthu holiadur syml
Bydd hyn yn eich helpu i ddarganfod pa fath o ffilmiau mae pobl eisiau eu gweld, rhowch help llaw iddynt – gofynnwch am eu tri hoff genre a’u hoff actorion – yn ogystal â gofyn pa nosweithiau sydd orau iddyn nhw.
2) Dod o hyd i leoliad
Dylai fod â digon o gadeiriau a ffenestri y gellir eu tywyllu yn ystod yr haf (heblaw eich bod yn bwriadu gwylio’r ffilmiau yn yr awyr agored). Bydd rhai sinemâu yn eich caniatáu i logi sgrin, felly gall hyn fod yn ffordd hawdd o wneud pethau.
3) Ystyried yswiriant ac atebolrwydd
Mae hyn yn rhan bwysig o’r broses i sicrhau eich bod wedi eich yswirio.
4) Penderfynu ar ffordd o dalu
Er enghraifft, gall pobl dalu pob tro maen nhw’n dod i weld ffilm neu gallwch sefydlu clwb ffilmiau gyda thanysgrifiad.
5) Penderfynu ar bris
Mae’r mwyafrif o gymdeithasau ffilm yn codi rhwng £3 a £5. Bydd angen i chi dalu breindal i ddangos y ffilm i’r cyhoedd, ac efallai bydd angen i chi logi’r lleoliad, felly sicrhewch nad ydych yn dibynnu ar sinema lawn bob tro i wneud elw.
6) Cael caniatâd i ddangos ffilm
Gall y BFFS eich helpu gyda hyn, neu cysylltwch â chymdeithas ffilmiau leol arall am gyngor. Mae Filmbank hefyd yn ddefnyddiol, ac Open Cinema hefyd, sy’n gwneud hyn i gyd drosoch chi am dâl misol.
7) Llunio rhaglen
Defnyddiwch ganlyniadau eich holiaduron i’ch helpu. Dangoswch rywbeth cymharol ddiweddar a phoblogaidd yn y sesiwn gyntaf, os gallwch chi, a gwell fyth os na gafodd ei dangos yn y sinema leol.
8) Penderfynu ar enw
Gallwch fod yn glyfar, ond bydd cynnwys cyfeiriad at rywbeth lleol yn helpu pobl i ddeall mai eu clwb sinema nhw yw hwn.
9) Sefydlu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol
Sefydlwch dudalennau Facebook a Twitter ac anogwch eich holl aelodau i’w hoffi a’u dilyn.
10) Hysbysebu’r rhaglen
Hysbysebwch y rhaglen (a’r aelodaeth os yw’n briodol). Defnyddiwch bapurau a chylchgronau lleol a chenedlaethol, a chofiwch gynnwys y manylion amlwg: ffilm, amser, lleoliad, a dolenni i gyfryngau cymdeithasol y clwb. Bydd cael gwirfoddolwyr i ddosbarthu taflenni trwy ddrysau hefyd yn codi’r proffil.