Skip to content

Sut i bersonoli lliain bwrdd 

Does dim rhaid i leiniau bwrdd fod yn blaen - beth am gael ychydig o hwyl yn dysgu sut i addurno eich lliain bwrdd eich hun a'i defnyddio ar gyfer unrhyw ddigwyddiad o Nadolig i'ch Cinio Mawr.

Mae addurno lliain bwrdd yn weithgaredd da ar gyfer plant ac oedolion, felly beth am wahodd eich ffrindiau a chymdogion draw am brynhawn creadigol a chreu lliain bwrdd unigryw i’w gofio. 

Bydd angen arnoch

  • Un lliain bwrdd plaen neu hen gynfas
  • Detholiad o binnau ffabrig lliw, stribedi o ffabrig, secwins, glitter, paent…neu unrhyw beth y gallwch ddod o hyd iddo!
  • Glud, staplwr neu becyn gwnïo bach 
  • Eich dychymyg! 

Unwaith bod gennych chi bopeth sydd eu hangen arnoch, rhowch eich lliain bwrdd ar ddalen o bapur newydd neu ar arwyneb awyr agored (os nad yw’n bwrw glaw…) ac ewch ati i addurno!

Children painting on a tablecloth

Dyma rhai syniadau i roi ysbrydoliaeth i ch

 

Defnyddiol

Tynnwch leoedd gosod, labeli enwau, jôcs a gweithgareddau torri’r iâ ar gyfer eich digwyddiad. 

 

Personol 

Tynnwch gartwnau o chi’ch hungan gynrychioli pawb ar eich stryd. 

 

Ymarferol 

Dyluniwch fap o’ch ardal gan gynnwys y mannau a’r nodweddion sy’n ei gwneud yn unigryw. 

Teddybears sat on top of a decorated tablecloth

 

Haniaethol 

Crëwch ddarn o gelf sy’n cynrychioli rhywbeth ystyrlon i’ch ardal. 

Children's hands decorating a tablecloth with an abstract pattern

 

Cynrychiadol 

Defnyddiwch y lliain bwrdd fel eich cynfas ar gyfer golygfa neu thema. 

 

Cydweithredol 

Rhowch ran benodol i bawb cyn dod â’r cwbl at ei gilydd i greu darn cysylltiedig o gelf gymunedol. 

Beth nesaf

Ar ôl i chi ddefnyddio’ch lliain bwrdd, gallech ei arddangos mewn canolfan gymunedol leol, neuadd bentref neu hyd yn oed ei dorri’n ddarnau a rhoi darn i’w gadw i bawb a gymerodd ran. Neu, gallech ei gadw ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol a chael pawb i ychwanegu rhywbeth arall ato y tro nesaf.