Skip to content

Creu sêr hadau

Mae sêr hadau yn fodd hwyliog o hau yn ddistaw bach a bywiogi ardal, gan greu sblash o liw a darparu cynefinoedd sy'n gyfeillgar i beillwyr. Defnyddiwch nhw i ddod ag ymyl ffordd noeth, ali neu ddarn anghofiedig o dir yn eich cymuned yn fyw.

Mae’r sêr hyn yn hynod hawdd i’w gwneud ac yn gyflwyniad gwych i arddio gerila.   Gellir eu rhoi at ei gilydd wythnosau cyn plannu, gan ei wneud yn weithgaredd perffaith ar gyfer diwrnod glawog neu weithgaredd cymunedol.    Mae bob amser yn dipyn o arbrawf pa mor dda maen nhw’n gweithio, ond mae hynny’n rhan o’r hwyl!

Bydd angen arnoch

  • Papur o’ch ailgylchu 
  • Siswrn 
  • Blawd a dŵr, neu lud PVA 
  • Bowlen gymysgu fach 
  • Rhywbeth i gymysgu a dodi’ch glud – bydd brws paent, ffon, neu’ch bysedd yn gwneud tro!  
  • Pecyn o hadau glas yr ŷd (neu flodau brodorol eraill). 
bunting two
Illustrative bunting string in teal and navy blue.

Cyfarwyddiadau 

  1. Torrwch sgwariau bach o bapur (tua 4cm yn fras), bydd angen dau sgwâr y seren arnoch chi.
  2. Cymysgwch 1 llwy fwrdd o flawd ac 1 llwy fwrdd o ddŵr gyda’i gilydd i ffurfio past neu arllwys blobyn o lud PVA i’ch bowlen.
  3. Dabiwch eich past blawd neu lud ar y sgwâr ac ysgeintiwch ychydig o hadau ar ei ben, gydag ychydig o le rhyngddynt os gallwch chi.
  4. Rhowch eich ail sgwâr ar ben yr hadau ar ongl i ffurfio seren.   Pwyswch y papur i lawr i uno’r cyfan a’i adael i sychu.
  5. Pan fyddwch chi’n barod, plannwch eich sêr y tu allan yn y man o’ch dewis, tua 1cm o ddyfnder a gyda phellter bach rhwng pob seren.
  6. Dyfriwch nhw os gallwch chi, fel arall gadewch bethau i’r elfennau naturiol ac aros i’r egin cyntaf ymddangos! 

 

Items needed to make seed stars

Beth am rannu’r hud trwy roi eich sêr hadau yn anrhegion?

Beth am eu defnyddio fel ffordd i gydnabod y sêr yn eich cymuned? Ysgrifennwch neges neu addurnwch a phostio seren trwy flwch llythyrau, ei defnyddio fel tag rhodd neu ei chynnwys mewn cerdyn i rywun arall ei blannu neu ei basio ymlaen.