Crefftio gyda dail
Trwy gydol yr hydref bu Little Bird SOS yn annog pobl i addurno dail wedi cwympo a'u gadael fel trysor i bobl ddod o hyd iddynt pan oeddent allan o gwmpas y lle. Yn ogystal â bod yn wych ar gyfer bomio dail, gellir hefyd defnyddio dail sydd wedi cwympo i greu addurniadau ac anrhegion naturiol, ac mae'n weithgaredd gwych i gael pawb allan yn yr awyr agored yr adeg hon o'r flwyddyn.
Roeddem wrth ein boddau â’u syniad o ‘fomio dail‘ fel ffordd o ychwanegu hyfrydwch at ddiwrnod rhywun ac i gysylltu pobl â’r natur o’u cwmpas, felly fe ofynnom i Little Bird SOS rannu rhai ffyrdd y gallwch addurno dail a phethau syml y gallwch eu gwneud.
Bydd angen arnoch
- Dail
- Papur cegin
- Paent acrylig, brwsys paent bach, a ffon coctel
- Nodwydd ac edau
- Pensiliau
- I wneud torch, bydd angen eich dail addurnedig, cardbord o’ch ailgylchu a glud arnoch chi.
- Ar gyfer mobile broc môr bydd angen dail addurnedig, edau, gleiniau a brigyn neis arnoch chi.
- I wneud rhosod dail bydd angen rhai dail glân a llaith o wahanol feintiau, edau gref, rhai stribedi o ddeunydd neu dâp i rwymo’r coesyn.
Dull
1) Casglwch, sychwch a gwasgwch eich dail
Mae’n well casglu dail ar gyfer y gweithgareddau hyn dros yr hydref a’r gaeaf, mae’n syniad da eu pwyso a’u sychu trwy eu rhoi rhwng dalennau o bapur cegin – eu rhoi o dan bentwr o lyfrau neu ryw bwysau arall a’u gadael am ychydig ddyddiau i sychu. Os ydych chi’n pwyso ac yn sychu mwy o ddail nag sydd eu hangen arnoch i’w defnyddio ar unwaith gallwch greu stash hyfryd i’w ddefnyddio ar gyfer prosiectau crefft ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
2) Addurnwch eich dail
Paentio, darlunio, pwytho, dyrnu twll neu ysgrifennu, defnyddiwch yr adnoddau sydd gennych wrth law i ddod â’ch dail yn fyw. Gall dotiau, strociau a siapiau syml greu patrymau a dyluniadau hyfryd iawn.
Mae gan y fideo isod rai technegau hawdd ar gyfer paentio ar ddail.
3) Penderfynwch beth i’w wneud â’ch dail
- Gadewch Ddeilen
Ewch allan am dro a gadael eich deilen hyfryd yn rhywle i bobl yn eich cymuned ei gweld neu ddod o hyd iddi. Beth am dynnu llun, creu hashnod a rhannu ar-lein i annog eraill i gymryd rhan hefyd.
- Creu Torch neu Mobile Broc Môr
Bydd y fideo tiwtorial uchod yn dangos i chi’r broses hynod syml o droi eich dail yn dorch [4.22] neu mobile hongian [8.22].
- Pwytho a Phlygu Dail – Dail Addurnol wedi’u Pwytho, a Blodau Dail. Cymerwch olwg ar y fideo isod.
Beth am roi eich creadigaeth â dail i gymydog neu ffrind?
Buasem wrth ein boddau yn gweld y pethau a grëwch chi – rhannwch nhw gyda ni ar @edencommunities.