Skip to content

Myffins Siocled Gwyn a Mafon gan Joe Wicks

Darganfyddwch y myffins siocled gwyn a mafon blasus hyn gan Joe Wicks.

Rysáit gan Joe Wicks

Diolch i Joe am rannu’r rysáit myffins siocled gwyn a mafon blasus hwn!

Cynhwysion

Yn gwneud 12 myffin

Stars gif transparent background

  • 120g saws afal
  • 100g iogwrt
  • 40ml olew blodyn yr haul
  • 2 ŵy
  • 240g blawd codi
  • 1 llwy de o bowdr codi
  • 90g siwgr mân
  • 60g darnau bach o siocled gwyn
  • 100g mafon, ffres neu wedi’u rhewi

Dull

  • Cynheswch y popty i 180C a leiniwch dun myffins gyda 12 cas papur.
  • Chwipiwch y saws afal, yr iogwrt, yr olew a’r wyau gyda’i gilydd mewn powlen ac mewn powlen ar wahân cymysgwch y blawd codi, y powdr codi a’r siwgr mân gyda’i gilydd.
  • Cymysgwch y cynhwysion gwlyb i’r cymysgedd blawd nes eu bod jyst wedi’u cyfuno, yna trowch y sglodion siocled a’r rhan fwyaf o’r mafon drwyddynt.
  • Rhannwch y cymysgedd rhwng y casys myffins yna gwthiwch y mafon sy’n weddill i’r top. Pobwch yn y popty am 20-25 munud nes bod y myffins yn euraidd a bod sgiwer yn dod allan o ganol y myffin yn lân.